Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

NADOLIG RHEWLLYD YNG NGHAERDYDD     

NADOLIG RHEWLLYD YNG NGHAERDYDD Bydd The Imperial Ice Stars yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru y Nadolig hwn, rhwng 21 Rhagfyr 2006 a 7 Ionawr 2007, gyda'i gynhyrchiad newydd o Swan Lake on Ice, sydd ar fin mynd ar werth o ddydd Llun 1 Mai.
 
Daeth y cwmni i Ganolfan Mileniwm Cymru (y Ganolfan) am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2005, yn fuan ar ôl i'r Ganolfan agor ei drysau, gyda Sleeping Beauty on Ice a oedd yn boblogaidd iawn ymysg cynulleidfaoedd Cymru. Hwn oedd y cynhyrchiad sglefrio cyntaf i gael ei lwyfannu yng Nghymru.
 
Dywed Fiona Allan, Cyfarwyddwr Rhaglennu a Marchnata y Ganolfan, "Ers yr ymateb gwych a gawsom gan gynulleidfaoedd ar ôl i ni agor taith Sleeping Beauty on Ice o amgylch y DU, bûm yn trafod â chynhyrchwyr Imperial Ice Stars i sicrhau bod y cynhyrchiad newydd hwn, Swan Lake on Ice, yn ymweld â Chaerdydd.  
                                         
"Nid yw galw'r cynhyrchiad anhygoel hwn yn 'sioe ar iâ' yn gwneud cyfiawnder ag ef o gwbl. Dawnsio ar iâ ydyw a gaiff ei berfformio gan rai o'r sglefrwyr gorau yn y byd. Mae Tony Mercer, y coreograffydd iâ byd enwog, wedi creu fersiwn o'r bale poblogaidd Swan Lake gan ymgorffori'r holl symudiadau cymhleth y byddech yn eu gweld yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf. Mae hwn yn adloniant perffaith i deuluoedd adeg y Nadolig".
 
Caiff Swan Lake on Ice, a ddaw i'r Ganolfan am dair wythnos yn dilyn perfformiad cyntaf y cwmni ohono yn Awstralia, ei berfformio i gerddoriaeth fythgofiadwy Tchaikovsky gan 26 o sglefrwyr sy'n Bencampwyr Olympaidd, y Byd, Ewropeaidd a Chenedlaethol sydd rhyngddynt wedi ennill mwy na 200 o fedalau. 
 
Cynlluniwyd y setiau gan ddylunydd mwyaf blaenllaw Awstralia Eamon D'Arcy a chynlluniwyd y gwisgoedd gan ddylunydd gwisgoedd mwyaf blaenllaw Awstralia, Albena Galubeoa o'r Theatr Stanislovsky enwog ym Moscow.
 
Ystyrir yn gyffredinol mai The Imperial Ice Stars yw'r cwmni sglefrio iâ gorau yn y byd. Perfformiwyd ei gynhyrchiad diwethaf, Sleeping Beauty on Ice, i fwy na 500,000 o bobl mewn deg gwlad mewn lleoliadau tebyg i D? Opera Amsterdam ac Artscape yn Cape Town. Unodd cynulleidfaoedd a beirniaid i ganmol y perfformiad, a gafodd gymeradwyaeth uchel bob nos.
 
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk
Esther Eckley
e-mail: esther.eckley@wmc.org.uk
Thursday, April 27, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk