Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Gwledd o Fale yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Gwledd o Fale yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Bydd pedwar cynhyrchiad bale gwahanol iawn yn ymddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn fuan gyda chyfuniad o fale traddodiadol, chwareus a modern a fydd yn diddanu cynulleidfaoedd o bob oedran. 
 
Bydd y Ganolfan yn cyflwyno unig berfformiad Cwmni Bale Cenedlaethol Norwy yn y DU o'i gynhyrchiad newydd o The Sleeping Beauty, yr ensemble bale gwrywaidd, Les Ballets Trockadero de Monte Carlo, bale hyfryd Cwmni Bale Brenhinol Birmingham, La Fille mal gardée a The Canterbury Tales gan Gwmni Bale Annibynnol Cymru.  
 
Meddai Fiona Allan, Cyfarwyddwr Rhaglennu a Marchnata Canolfan Mileniwm Cymru, "Dros y tri mis nesa bydd y Ganolfan yn cyflwyno pedair bale cwbl wahanol.  I'r rhai nad ydynt wedi gweld bale o'r blaen, rwy'n addo y gallwn droi'r cefnogwr chwaraeon mwyaf ymroddgar yn gefnogwr bale.  O stori dylwyth teg The Sleeping Beauty i bantomeim La Fille mal gardée a'r cyrff mwyaf blewog mewn twtw y gwelwch erioed yn The Trocks - dyma'ch cyfle i fanteisio ar bris dechreuol o ddim ond £5 y tocyn i weld y sioeau yn Theatr Donald Gordon a chynyrchiadau o'r radd flaenaf ar garreg eich drws.”
 
Y cynhyrchiad cyntaf i ymddangos yn y Ganolfan yw cynhyrchiad newydd Cwmni Bale Annibynnol Cymru o glasur Geoffrey Chaucer, The Canterbury Tales,  ddydd Sadwrn 17eg Mehefin yn Stiwdio Weston. Mae'r sioe yn cyflwyno gr?p o ddynion a merched sydd ar bererindod o Lundain i Gaer-gaint, gan adrodd chwedlau Caer-gaint i'w gilydd i dreulio’r amser a dod â chymeriadau amryddawn Chaucer yn fyw.
 
Bydd perfformiad tylwyth teg traddodiadol Cwmni Bale Cenedlaethol Norwy o The Sleeping Beauty yn dilyn yn fuan rhwng 21 a 25 Mehefin, yn llawn o geinder a steil fydd yn eich hudo.  Mae Cwmni Bale Cenedlaethol Norwy, sydd wedi cael ei gyfarwyddo gan Espen Giljane ers 2002, yn un o'r cwmnïau bale mwyaf cyffrous yn Ewrop a'r unig gwmni bale clasurol yn Norwy.
 
Mae'n rhaid mai La Fille mal gardée , a fydd yn ymddangos yn y Ganolfan rhwng 11 a 15 Gorffennaf, yw'r bale hynaf mewn repertoire ac mae'n llawn o ieir yn dawnsio, merlod Shetland a dawnsfeydd gwerin lliwgar. Mae La Fille, sy'n un o hoff berfformiadau bale Syr Frederick Ashton, yn gomedi ramantus ac mae yr un mor ffres â pherfformiad cyntaf y fersiwn hwn yn 1960.
 
Y perfformiad olaf i ymddangos ar y llwyfan nodedig fydd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo  rhwng 22 - 26 Awst, sef sioe sy'n cynnwys 15 o ddynion blewog mewn twtw a sgidiau bale maint 12. Bydd y sioe chwareus a digrif hon, sy'n fwyaf adnabyddus fel The Trocks, yn si?r o wneud i chi chwerthin wrth i'r dynion gyda'u colur coegwych ddawnsio ên pointe heb syrthio'n fflat ar eu hwynebau.
 
I archebu eich tocynnau ar gyfer y sioeau uchod, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 08700 40 2000 neu ewch i’n gwefan yn www.wmc.org.uk
Canolfan y Mileniwm  
web site
: www.wmc.org.uk
Esther Eckley
e-mail: esther.eckley@wmc.org.uk
Monday, May 22, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk