Pa un a ydych chi’n berfformiwr, yn ddylunydd, yn awdur, yn gyfarwyddwr, yn goreograffydd, yn artist neu’n athro, mae Stem yr Haf CPR yn cynnig yr union gyfle i chi chwilio eich arfer creadigol eich hun a chyfarfod cyfranwyr unfryd o bedwar ban byd. DEWISWCH o blith y canlynol:STEM MEHEFIN: 21 – 24 o FEHEFIN 2006 GUILLERMO GÓMEZ-PEÑA A ROBERTO SIFUENTES (LA POCHA NOSTRA) LABORDY PERFFORMIO Bydd Guillermo a Roberto yn arwain gweithdy pedwar diwrnod fydd yn meithrin dirnadaeth ddyfnach o’r prosesau a’r syniadau y tu ôl i gorff hynod o waith La Pocha Nostra; bydd y cyfranwyr yn rhannu dulliau a strategaethau ac yn gweithio tuag at ddigwyddiad cyhoeddus ar y noson olaf, a lunnir ar y cyd â Guillermo, Roberto, Richard Gough o CPR a chyfranwyr y gweithdy. Ffi’r Gweithdy: £120 (£80 tâl ysgoloriaeth) STEM GORFFENNAF: 1 - 5 o Orffennaf FRANK THEATRE ESTHETEG BERFFORMIO FRANK/SUZUKI. Mae CPR yn falch o groesawu yn eu holau i Gymru John Nobbs a Jacqui Carroll, cyd-gyfarwyddwyr Frank Theatre sydd â’i gartref yn Brisbane, ynghyd â’u hartistiaid cyswllt ar hyn o bryd. Mae Frank Theatre yn arbenigo mewn cynnig yr hyfforddiant Actorion Suzuki mawr ei barch oddi mewn i’w fframwaith cymysgryw eu hunain, Estheteg Berfformio Frank/Suzuki. Gweithdy 5 diwrnod £145 (£95 Pris Ysgoloriaeth) Gweithdy rhagarweiniol 2 ddiwrnod (1-2 o Orffennaf) £60 (£40 Pris Ysgoloriaeth) 7 - 11 o Orffennaf PING CHONG CHWILIO PERFFORMIO RHYNGDDISGYBLAETHOL Ers dros 30 mlynedd mae Ping Chong yn gweithio ar flaen y gad mewn estheteg theatr Americanaidd sy’n defnyddio cyrchddull rhyngddisgyblaethol yn y theatr, gan chwilio’n gynnil achosion croesddiwylliannol hunaniaeth a chymuned. Bydd Ping Chong yn arwain gweithdy stiwdio lle bydd actorion, dawnswyr, cyfarwyddwyr, coreograffwyr ac artistaid perfformio a chanddyn nhw dueddfryd cysyniadol a meddwl agored yn chwilio ac yn creu gwaith rhyngddisgyblaethol. £145 (£95 Pris Ysgoloriaeth) 13 – 22 o Orffennaf JACOB WREN / MARIE NERLAND / LAURE OTTMANN A P.M.E. (MONTRÉAL, CANADA) DIWEDDGLOEON I ABERYSTWYTH Mae ‘Diweddgloeon i Aberystwyth’ yn chwilio ymhellach rai o’r themâu a’r technegau a gychwynnwyd gan Jacob Wren a Laure Ottmann (o’r cwmni sydd â’i gartref yn Montréal, PME) a’u cydweithredwr, Marie Nerland. Bydd ‘Diweddgloeon…’ yn dwyn y cyfranogwyr i mewn fel perfformwyr a chydweithredwyr - yn chwilio am ffyrdd o fod yng nghwmni’r gynulleidfa mewn dull mor gynnes a naturiol ag y bo modd, gan roi ar waith broses feirniadol (oddi mewn i’r perfformiwr ac oddi mewn i’r gwyliwr ill dau): proses sy’n ymwneud yn uniongyrchol â materion sydd wrth graidd theatr a pherfformio. Mae CPR yn ddiolchgar i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Swyddfa Llywodraeth Québec, Llundain am gymorth ariannol ar gyfer y cywaith yma. £250 (£165 Pris Ysgoloriaeth) 14-16 o Orffennaf JOAN MILLS ANADL LIFEIRIOL: ATGOF D?R Mae Joan Mills yn gyfarwyddwr theatr, yn ymarferwr llais, yn Gyfarwyddwr Llais y CPR ac yn Gymrawd Llais a Pherfformio yn yr Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu. Gweithdy llais ydi hwn fydd yn chwilio’r cysylltiad rhwng anadl a theimlad wrth berfformio, trwy fyfyrfyrion ac ymarferion a ysbrydolwyd gan dd?r. Bydd Joan yn dysgu yn y stiwdio ac yn y d?r gyda’r cyfranogwyr – bydd pob diwrnod yn cynnwys awr o waith llais a ‘nofio-ganu’ yn y pwll. £60 (£40 Bursary Price) 21 - 23 o Orffennaf CHRIS CRICKMAY A MIRANDA TUFNELL Y MAES YMLEDOL: Chwilio’r Corff, Man a Lle a Phethau Materol Mae Chris Crickmay yn gerflunydd ac yn artist mewnosod sy’n ymwneud ers talwm â gwaith symud byfyrfyr ac â chreu amgylcheddau perfformio. Mae Miranda Tufnell yn ddawnsiwr, yn athro sy’n defnyddio Alexander yn sylfaen ei gwaith ac yn Therapydd Creuansacral. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar chwilio yn synhwyraidd ac yn ddychmygus y corff, man a lle a phethau materol, fel defnyddiau ein bywyd pob dydd a hefyd fel elfennau i symbylu perfformio – gan chwilio’r ffordd y mae ein cyrff yn ymateb i’r byd materol o’n cwmpas ac yn rhyngweithio ag ef a chan ddilyn y straeon a’r delweddau y mae’r cyfarfyddiadau yma’n eu dadlennu. £60 (£40 Pris Ysgoloriaeth) 18-20 o Orffennaf RIC JERROM a JAQUI POPAY Gweithdy Theatr Ryngweithiol Ric Jerrom a Jaqui Popay ydi dau o’r perfformwyr a’r cyfarwyddwyr blaenllaw gydag ensemble theatr gomedi ryngweithiol mwya’r DU, Natural Theatre Company (NTC). Bydd y gweithdy wedi’i seilio ar arddull(iau) perfformio anghonfensiynol y Natural Theatre Company. £90 (£60 Bursary Price) Am ragor o wybodaeth a wnewch chi gysylltu â: Centre for Performance Research (CPR) Uned 6, Parc Gwyddoniaeth Aberystwyth, Cymru, y DU SY23 3AH Tel: +44 (0) 1970 622133 Ffacs: +44 (0) 1970 622132 |
| Centre for Centre Performance Research web site: www.thecpr.org.uk/projects/workshops.php |
| Antony Pickthall e-mail: aop@aber.ac.uk |
| Monday, June 5, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Pa un a ydych chi’n berfformiwr, yn ddylunydd, yn awdur, yn gyfarwyddwr, yn goreograffydd, yn artist neu’n athro, mae Stem yr Haf CPR yn cynnig yr union gyfle i chi chwilio eich arfer creadigol eich hun a chyfarfod cyfranwyr unfryd o bedwar ban byd. DEWISWCH o blith y canlynol: