Les Ballets Trockadero de Monte Carlo, neu'r Trocks fel y'i gelwir nhw, dynion blewog mewn twtws – yw'r act gomedi flaenaf ym myd dawns heddiw a dylai unrhyw un sy'n chwilio am esgus i chwerthin wrth wylio balerinas cwerylgar yn ceisio serennu frysio i Ganolfan Mileniwm Cymru i weld un o'r sioeau mwyaf doniol i ddod i Gymru erioed.Mae'r Trocks, sydd newydd fod yn teithio o amgylch y byd yn dod â'u cerddoriaeth, hud, drygioni a mascara i Gaerdydd ac yn perfformio yn y Ganolfan am 5 noson o Awst 22 i 26 2006. Bydd 16 o flewgwn tanllyd gyda cheseiliau gwalltog yn amrantu wrth iddynt berfformio cyfres ddawnsfeydd bale clasurol, ac er mai dynion sy'n gwisgo'r twtws a'r tiaras, peidiwch â meddwl am un funud nad ydynt o ddifrif. Dywed Fiona Allan, Cyfarwyddwr Marchnata a Rhaglennu'r Ganolfan,“Daw Les Ballets Trockadero de Monte Carlo â rhai o'r eiliadau gorau mewn bale clasurol yn fyw, er efallai nid yn y ffordd a ddychmygai'r coreograffwyr mawr! Mae'r ffrogiau'n hyfryd, y colur yn eithafol, bydd hwn yn berfformiad o ddawns glasurol, yn noson syfrdanol o theatr a'r noson gomedi orau a gewch yn y bale erioed. " Mae'r sioe yn cynnwys detholiadau o ffefrynnau fel Les Sylphides, Raymonda a Swan Lake, teyrnged ddoniol i fale clasurol, gyda mwy na phinsiad o ddrygioni. Mae perfformiad y dawnswyr, sy'n troedio llinell fain rhwng celfyddyd dwys a bod yn ferchetaidd, mor argyhoeddedig fel y gallwch yn wirioneddol anghofio mai dynion ydynt. Swan Lake yw eu harwydd-waith ac yma mae'r comedi yn fwy llydan nag ysgwyddau Odette. Caiff Brenhines yr Elyrch ei gwasgu i mewn i dwtw gwyn, gyda gwallt ei brest yn egino; mae'n fflyrtio'n ddigywilydd gydag un o'r tywysogion mwyaf merchetaidd. Mae'r Trocks, a sefydlwyd yn Efrog Newydd yn 1974, wedi sefydlu'u hunain fel ffenomen dawns amlwg ym mhob cwr o'r byd. Mae'r Trocks wedi ymddangos mewn dros 500 o ddinasoedd ledled y byd a roedd taith 2004/2005 yn dynodi pen-blwydd y cwmni yn 30 oed a oedd yn cynnwys perfformiadau yn Theatr y Bolshoi yn Moscow. Paratowch am noson ofnadwy o ddigrif o falerinas pengaled, ego llawer ohonynt ar ffo, cyfaredd difa ac ymddygiad ecsentrig. Dewch i weld sut y trawsffurfir y dynion cyhyrog hyn yn ensemble o falerinas eiddil. Bydd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo yn perfformio yn y Ganolfan am 7.30pm o Awst 22 i 26 2006. Mae tocynnau'r sioe hon yn amrywio o £5 i £22 ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch â Swyddfa Docynnau a Gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, July 5, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Les Ballets Trockadero de Monte Carlo, neu'r Trocks fel y'i gelwir nhw, dynion blewog mewn twtws – yw'r act gomedi flaenaf ym myd dawns heddiw a dylai unrhyw un sy'n chwilio am esgus i chwerthin wrth wylio balerinas cwerylgar yn ceisio serennu frysio i Ganolfan Mileniwm Cymru i weld un o'r sioeau mwyaf doniol i ddod i Gymru erioed.