|
Mae’r New Theatre wedi diddanu pobl yng nghanol y ddinas ers can mlynedd. Yr hydref a’r gaeaf hwn, mae gennym lond llwyfan o adloniant gan gynnwys dramâu o fri, sioeau cerdd mawreddog, clasuron i blant, a’r pantomeim Nadolig ysblennydd wrth gwrs – JACK AND THE BEANSTALK! Mae’n dramâu gwerth chweil yn cynnwys clasur Tennessee Williams CAT ON A HOT TIN ROOF gyda William Gaunt a Rosemary Leach, drama hynod lwyddiannus Alan Bennett THE HISTORY BOYS, llu o sêr yn y gomedi THERE’S NO PLACE LIKE A HOME, enillydd gwobr Pulitzer TO KILL A MOCKINBIRD a HEROES gan Tom Stoppard, drama gomedi ac enillydd gwobr Olivier. Mae gennym sioeau cerdd i blesio pawb gan gynnwys clasur Gilbert a Sullivan THE PIRATES OF PENZANCE, sioe dwymgalon i’r teulu cyfan ANNIE gyda Ruth Madoc, cynhyrchiad cwmni Theatr Orbit Caerdydd o CAROUSEL gan Rodgers a Hammerstein, Michael Aspel a Suzanne Shaw yn codi gwrychyn yn THE ROCKY HORROR SHOW a’r fythol boblogaidd THE RAT PACK LIVE FROM LAS VEGAS. Mae Music Theatre Wales yn dychwelyd gydag opera newydd, HOUSE OF THE GODS, a bydd sêr y dyfodol yn cystadlu am y gorau yn BBC RADIO 2 VOICE OF MUSICAL THEATRE. Bydd Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno naws y Nadolig gyda A CHILD’S CHRISTMAS IN WALES a A CHRISTMAS CAROL gyda Ron Moody. Mae digon i blesio’r to iau hefyd, gyda chlasur Roald Dahl DANNY THE CHAMPION OF THE WORLD a TRACY BEAKER GETS REAL, sioe llawn dop o ganu a chwerthin i’r teulu cyfan. Daw’r enwau mawr ynghyd yn sioe arbennig Cwmni Theatr Cymru i godi arian, SUNDAY WITH THE STARS, a bydd CARDIFF GANG SHOW yn cyflwyno wythnos o adloniant gorau Broadway yn y brifddinas. Mae dechrau digon anturus a chyffrous i’r tymor gyda DANNY THE CHAMPION OF THE WORLD gan Roald Dahl! Dyma gynhyrchiad ar y cyd rhwng The Birmingham Stage Company a Theatr Sherman Caerdydd, ac mae’n sioe ddelfrydol i blant dros 5 oed a’u teuluoedd – o ddydd Mawrth 19 tan ddydd Sadwrn 23 Medi. Ar ôl llwyddiant ysgubol The Mikado yn 2005, mae’n bleser croesawu The Carl Rosa Company yn ôl gyda’u cynhyrchiad o opera gomig boblogaidd Gilbert a Sullivan, THE PIRATES OF PENZANCE o ddydd Mawrth 26 Medi ymlaen. Dyma sioe llawn canu a chwerthin gyda chaneuon poblogaidd fel I am the Pirate King ac A Policeman’s Lot is Not a Happy One. Bydd y sioe gerdd boblogaidd i’r teulu cyfan, ANNIE yn dod yma o ddydd Mawrth 3 Hydref, gyda Ruth Madoc fel yr hen gnawes Mrs. Hannigan. Dewch i gael eich swyno gan seiniau It’s the Hard Knock Life aTomorrow, mewn sioe a welwyd am y tro cyntaf 30 mlynedd yn ôl! Nos Sul 8 Hydref, bydd enwogion y llwyfan a’r sgrin fach fel Peter Karrie, Mal Pope a Philip Madoc yn ymddangos yng nghyngerdd elusennol arbennig Cwmni Theatr Cymru, SUNDAY WITH THE STARS. O nos Fawrth 10 Hydref, bydd William Gaunt, Rosemary Leach, Ben Hull a Lesley Harcourt yn cymryd rhan yn nrama enwog Tennessee Williams CAT ON A HOT TIN ROOF. Mae Big Daddy, dyn cefnog o berfeddion de’r Unol Daleithiau, a’i deulu trafferthus yn dod ynghyd i ddathlu ei ben-blwydd yn 65 oed. Ond mae cyfrinachau’r gorffennol a’r presennol yn bygwth ysgwyd seiliau’r llinach draddodiadol hon i’r byw. Unwaith eto, byddwn yn croesawu cystadleuaeth BBC RADIO 2 VOICE OF MUSICAL THEATRE fel rhan o _yl Theatr Gerdd Caerdydd. O ddydd Sul 15 Hydref, bydd perfformwyr o bedwar ban byd yn ymgiprys am deitl o fri, gwobr ariannol, contract recordio a’r cyfle i berfformio ar raglenni’r BBC. Ail sioe’r _yl hon fydd addasiad newydd o waith Dylan Thomas, A CHILD’S CHRISTMAS IN WALES. O nos Fawrth 24 Hydref, bydd Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno sioe gerdd hwyliog sy’n hel atgofion am ryfeddodau’r Nadolig a fu. Gwledd o ganu a chwerthin i’r teulu i gyd. Mae cwmni Theatr Orbit yn dychwelyd aton ni o nos Fawrth 31 Hydref tan ddydd Sadwrn 4 Tachwedd, gyda chynhyrchiad o stori garu enwog Rodgers a Hammerstein CAROUSEL. Bydd hi’n noson i’w chofio, gyda chaneuon fel You’ll Never Walk Alone, When I Marry Mr. Snow a The Soliloquy. I barhau â naws y Nadolig, bydd Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno’u fersiwn arbennig nhw o A CHRISTMAS CAROL gan Charles Dickens. Dewch i Lundain Oes Fictoria yng nghwmni’r enwog Ron Moody, o nos Fawrth 7 Tachwedd ymlaen. Ar nos Sul 12 Tachwedd, bydd Music Theatre Wales yn cyflwyno opera newydd Lynne Plowman a Martin Riley, HOUSE OF THE GODS. Mewn tafarn stryd gefn yn ystod y Rhyfel Mawr, mae Jack O’Connor – milwr wedi’i ddadrithio sydd newydd ddychwelyd o faes y gad - yn teimlo fel petai’n byw mewn breuddwyd opiwm ddychrynllyd a swreal. Dyma opera gothig hynod ddifyr sy’n trin a thrafod aberth, rhyw, marwolaeth, gwyddoniaeth a diniweidrwydd. Mae drama o fri Alan Bennett THE HISTORY BOYS yn dod i’r New Theatre o nos Fawrth 14 Tachwedd ymlaen. Ysgol ramadeg i fechgyn yng ngogledd Lloegr yn y 1980au yw canolbwynt y ddrama, wrth i griw o fyfyrwyr hanes gyflwyno cais i fynd i Oxbridge dan arweiniad dau athro tra gwahanol. Mae’r ddrama’n llawn ffraethineb arferol Bennett, ac wedi ennill gwobrau niferus yn Broadway a’r West End. Mae THE HISTORY BOYS yn cynnwys iaith gref. Bydd 130 o aelodau ifanc a dawnus mudiad Sgowtiaid a Geidiaid Caerdydd yn eich tywys i lwyfannau enwog Broadway, Efrog Newydd, dan law’r CARDIFF GANG SHOW o nos Fercher 22 Tachwedd - gyda digonedd o ddawnsio, canu a chwerthin. Dora Bryan, Gorden Kaye a Ken Morley fydd rhai o’r sêr y ddrama gomedi newydd, wych, THERE’S NO PLACE LIKE A HOME o nos Fawrth 28 Tachwedd. Gyda chartref ymddeol i berfformwyr theatr, Stollberg Hall, mewn peryg o gau, mae’r trigolion yn gwneud yr hyn fyddai unrhyw griw o ddiddanwyr enwog gwerth eu halen yn ei wneud… herwgipio actor enwog arall a mynnu pridwerth, mewn cynllun cwbl wallgof. Pwy _yr, mae’n dra phosib y byddan nhw’n llwyddo! Dewch i fwrw swildod yn noson nwydus THE ROCKY HORROR SHOW o nos Lun 4 Rhagfyr. Gyda David Bedella, Suzanne Shaw a Michael Aspel fel yr Adroddwr, mae’r sioe gerdd hon yn un parti gwyllt a gwallgof gyda hen ffefrynnau fel Sweet Transvestite a Time Warp. Rhybudd – sioe anweddus. Ein pantomeim eleni yw JACK AND THE BEANSTALK. O ddydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2006 tan ddydd Sadwrn 27 Ionawr 2007, bydd John Barrowman (Doctor Who, Dancing on Ice), y comedïwr Andy Jones a chyflwynydd radio Capital Gold Tony Wright yn mynd â phlant o bob oed ar antur a hanner gyda setiau a gwisgoedd gwych, clamp o gawr a llawr sglefrio! Pleser pur i’r teulu cyfan. O nos Fawrth 6 tan nos Sadwrn 10 Chwefror bydd Duncan Preston yn chwarae rhan Atticus Finch yn TO KILL A MOCKINGBIRD gan Harper Lee – nofel hynod boblogaidd sy’n bwrw golwg ar fywyd ym mherfeddion de’r Unol Daleithiau trwy lygad plentyn. Mwyaf addas i rai dros 11 oed yn bennaf. Mae THE RAT PACK LIVE FROM LAS VEGAS yn dychwelyd i Gaerdydd o nos Lun 12 Chwefror i ddathlu doniau lleisiol anhygoel Frank Sinatra, Dean Martin a Sammy Davis Jnr. Bydd cast talentog a cherddorfa o 15 offeryn yn eich cludo’n ôl i nosweithiau cyfareddol, cofiadwy Las Vegas. Bydd Tracy Beaker yn cadw reiat yma o ddydd Mawrth 20 Chwefror yn sioe TRACY BEAKER GETS REAL. Wedi’i seilio ar nofel The Story of Tracy Beaker gan Jacqueline Wilson, mae’r sioe newydd hon yn llawn hwyl a sbri a chaneuon i’r teulu cyfan. HEROES, drama fuddugol gwobr Oliver, fydd yn cloi tymor y gaeaf o nos Lun 26 Chwefror ymlaen. Mae’r gomedi wych a addaswyd gan Tom Stoppard, yn dilyn hynt a helynt tri o gyn-filwyr y Rhyfel Mawr sy’n treulio’u dyddiau mewn ysbyty milwrol ym 1959. Wrth dynnu coes a dadlau ymysg ei gilydd, maen nhw’n cynllwynio i ddianc ar y cyd. Bydd perfformiadau’r hydref a’r gaeaf gydag Iaith Arwyddion Prydain yn cynnwys DANNY THE CHAMPION OF THE WORLD (Sadwrn 23 Medi, 2.00pm), A CHRISTMAS CAROL (Sadwrn 11 Tachwedd, 2.30pm), THE ROCKY HORROR SHOW (Sadwrn 9 Rhagfyr 6.00pm), JACK AND THE BEANSTALK (Sadwrn 20 Ionawr 2007 2.30pm, Sul 21 Ionawr 1.00pm, Mawrth 23 Ionawr 1.30pm) a TO KILL A MOCKINGBIRD (Sadwrn 10 Chwefror, 2.30pm). Dydd Sadwrn 14 Hydref am 2.30pm, bydd CAT ON A HOT TIN ROOF wedi’i lun-ddisgrifio i’r rhai â nam ar eu golwg, a hefyd CAROUSEL (Sadwrn 4 Tachwedd, 2.30pm), THE HISTORY BOYS (Sadwrn 18 Tachwedd, 2.30pm), JACK AND THE BEANSTALK (Gwener 26 Ionawr, 7.00pm a Sadwrn 27 Ionawr, 2.30pm), THE RAT PACK LIVE FROM LAS VEGAS (Sadwrn 17 Chwefror, 4.30pm) a HEROES (Sadwrn 3 Mawrth, 2.30pm). Erika James fydd yn dehongli neu’n disgrifio’r perfformiadau hyn, heblaw am THE HISTORY BOYS a ddisgrifir gan Vocaleyes. Bydd perfformiad gydag isdeitlau o THE HISTORY BOYS nos Fercher 15 Tachwedd am 7.30pm a thaith gyffwrdd ddydd Sadwrn 18 Tachwedd am 1.00pm. Gallwch brynu’ch tocynnau nawr o Swyddfa Docynnau’r New Theatre, naill ai drwy ffonio Caerdydd (029) 2087 8889 neu yn www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, September 11, 2006 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
