Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

UCAN PERFORM - PENCAMPWYR Y PLANT YNG NGWOBRAU’R LOTERI GENEDLAETHOL     

UCAN PERFORM -  PENCAMPWYR Y PLANT 
YNG NGWOBRAU’R LOTERI GENEDLAETHOL
Mae’r prosiect Cymraeg, UCAN Perform, wedi curo’r gystadleuaeth i ddisgleirio fel un o hoff brosiectau’r Loteri yn y DU – gan ennill Gwobr Pencampwyr y Plant yn Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod a dathlu gwaith caled ac ymroddiad pobl sydd yn defnyddio arian y Loteri i wnued gwahaniaeth i gymunedau ar draws y DU.

Derbyniodd y Gwobrau bron i 100,000 o belidleisiau gan y cyhoedd y flwyddyn hon, a cafodd yr enillwyr eu henwi yn fyw ar yr awyr yn ystod rhaglen arbennig Diwrnod y Loteri Genedlaethol ‘Everyone’s a winner’ ar BBC1 nos Sadwrn. Ymunodd cynrychiolwyr o UCAN â 12 o enillwyr rhanbarthol eraill ar y rhaglen a gyflwynwyd gan Noel Edmonds.

Roedd UCAN Perform yn llwyddianus yn y categori Pencampwyr y Plant, sydd yn cydnabod prosiectau sydd yn elwa plant a phobl ifanc yn uniongyrchol. Cyflwynyd y Wobr i’r enillwyr balch gan y gyflwynwriag teledu Fearne Cotton.

Fe sefydlwyd UCAN gan gyn actor Pobol y Cwm Bernard Latham a’i wraig Jane er mwyn i blant â nam ar eu golwg ar draws Cymru gael mynediad i’r celfyddydau. Gyda chymorth £4,800 o arian y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru cafodd plant a nam ar eu golwg o bump ysgol gymryd rhan mewn cyfres o weithdai drama a ddilynwyd gyda perfformiad. Dysgodd y plant am ddrama ac actio yn ogystal ag agweddau technegol ac artistig fel goleuo a sain.

Fe gafodd y profiad effaith mawr iawn ar y plant, gan fagu eu hyder a hunan barch yn ogystal a herio canfyddiadau pobl tuag at bobl â nam ar eu golwg.

Yn derbyn Gwobr Pencampwyr y Plant y Loteri Genedlaethol ar ran UCAN Perform, dywedodd Bernard Latham:
“ Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y Wobr hon ar gyfer UCAN Perform. Fe fydd yn gymorth mawr i hyrwyddo’r cynllun fel y gallwn ni helpu hyd yn oed mwy o bobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU. Diolch i arian y Loteri rydym wedi gallu codi ymwybyddiaeth o dalent a gallu y bobl ifanc yma ac fe fuaswn i’n hoffi cywflyno’r wobr yma iddyn nhw.”

Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau yn 1994, mae dros £900miliwn wedi cael ei godi a dros 26,000 o grantiau wedi cael eu dosbarthu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd yng Nghymru.

Yr enillwyr eraill yn Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol oedd Food Chain a enillodd y Wobr Ysryboliaeth,Stuart Liddell and the Inverary Pipe Band a hawliodd y teitl Arwr Lleol a Trans Penine Trail a gafodd ei enwi’n hoff Fan Anhygoel y Loteri.

Roed Gwobrau’r Loteri Geneldaethol yn rhan o weithgareddau Diwrnod y Loteri Genedlaethol a ddigwyddodd ar Ddydd Sadwrn 23 Medi. Mae Diwrnod y Loteri Genedlaethol yn cydnabod a dathlu y gwahaniaeth sydd yn cael ei wneud i gymunedau a phobol ar draws Cymru a gweddill y DU gyda arian y Loteri.Mae’r Loteri Genedlaethol wedi codi dros £19 biliwn i Achosion Da ers iddo ddechrau yn 1994.
UCAN  
web site
: www.lotterygoodcauses.org.uk

e-mail:
Sunday, September 24, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk