Mae'r cwmni ddaeth a'r ddrama ddisglair Life of Ryan…and Ronnie i chi yn dychwelyd hefo cynhyrchiad arbennig arall, Hen Bobl Mewn Ceir, gan Meic Povey. Mae Meic yn un o hoff awduron Cymru ac yn gefnogwr brwd o'r gwaith ysgrifennu newydd mae Sgript Cymru yn ei gynhyrchu. Mae cynyrchiadau llwyddiannus Meic hefo'r cwmni yn cynnwys, Life of Ryan …and Ronnie, Indian Country a Diwedd y Byd/Hen Blant. Mae Meic wrth ei fodd yn dychwelyd i weithio hefo'r cwmni ac i fod yn teithio Cymru hefo'i ddrama ddiweddaraf 'Hen Bobl Mewn Ceir.'“ Un nosweth - maybe more' fel ma'r ads yn weud. Redeg bant am byth falle! Tseto marwolaeth ei hunan ; tseto'r final call!” -Roy Tydi gofalu am fodau oedrannus sy'n aros am y trên olaf ddim yn nefoedd, yn enwedig pan does mawr gwell yn aros amdanoch chi adref. Mae Roy a Ceri yn crefu rhywbeth gwell, rhywle neis, cyfeillgarwch, cwtsh. Yng nghanol rhialtwch gofalu am bobl mewn oed, mam alcoholig a g_r anffyddlon oes modd i'r ddau anghofio'r cyfan a chipio'r cyfle i ddianc? “Pam ma'r tsips i lawr, Roy; when push comes to shove, ife, beth ma pawb rili moyn yn y diwedd?” -Ceri Yn ymdrin â chariad, colled, dial a dyletswydd bydd y ddrama gomedi tywyll beiddgar hon yn si_r o gydio yn yr emosiynau a'ch gadael yn gwingo a gwenu bob yn ail. Gydag Elen Bowman, cyfarwyddwr y ddrama ddadleuol Cymru Fach ar arbennig Amdani yn ôl wrth y llyw mae'n argoeli'n gynhyrchiad gwych. Mae'r ddrama'n agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar yr 8fed o Dachwedd 2006. Perfformiadau yn y Sherman o'r 8-11eg o Dachwedd. Taith o amgylch Cymru i ddilyn yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr. Dyddiadau taith Hen Bobl Mewn Ceir: Tachwedd 8-11 Theatr y Sherman, Caerdydd Tachwedd 14-15 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Tachwedd 17-18 Theatr Felinfach, Felinfach Tachwedd 22 Theatr John Ambrose Rhuthun Tachwedd 24-25 Theatr y Grand, Abertawe Tachwedd 28-29 Galeri, Caernarfon Rhagfyr 1-2 Theatr Ardudwy, Harlech Nodiadau pellach...... Meic Povey Brodor o Flaen Nanmor, Eryri yn wreiddiol ac yn un o 10 o blant.Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Theatr Cymru yn 1968 a bu'n actio ac ysgrifennu, yn dilyn ei drywydd ei hun ers deng mlynedd ar hugain. Mae ei waith ar gyfer y theatr, teledu a ffilm yn cynnwys: Nos Sadwrn Bach, Aelwyd Gartrefol, Taff Acre; Meistres y Chwarae; Camau Troellog; Sul y Blodau, Deryn, Babylon By-Passed, Y Filltir Sgwâr, Christmas Story, Nel, Yr Ynys, Terfyn, Y Cadfridog, Chwara Plant, Gwaed Oer, Diwedd Y Byd, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, Y Weithred, Wyneb Yn Wyneb, Perthyn, Fel Anifail, Yr Heliwr, Bonansa!, Tair a Talcen Caled. Yn fwy diweddar mae ei waith yn cynnwys, Sylw (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn cydweithrediad a Sgript Cymru, 2001), Bob a'i Fam y gyfres deledu boblogaidd i S4C a'r ddrama hynod lwyddiannus Indian Country, ei ddrama Saesneg gyntaf a gynhyrchwyd gan Sgript Cymru ac a gafodd daith cenhedlaethol yn ogystal â chael ei pherfformio yn Theatr y Traverse, Caeredin.Yn 2004, cafodd fersiwn adolygedig o ddrama Meic, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi ei dewis i gael ei pherfformio fel cynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru. Meic Povey ydi awdur cyswllt Sgript Cymru. Cafodd cyfieithiad o'i ddrama, Tair ei chyflwyno gan Sgript Cymru yn Theatr y Traverse, Caeredin ac mewn cydweithrediad arbennig gyda'r Royal Shakespeare Company a'r Union des Theatres de L'Europe, mae'r ddrama yn cael ei gyhoeddi ar gyfer perfformio mewn pum iaith Ewropeaidd. Yn 1991 derbyniodd Meic ei wobr Bafta Cymru gyntaf - Sgriptiwr Gorau am ei ffilm Nel; cafodd ei ail wobr Bafta yn 2005 am Talcen Caled. Llynedd roedd drama Meic, Life of Ryan…and Ronnie, a gafodd ei gynhyrchu gan Sgript Cymru yn hynod boblogaidd gan gynulleidfaoedd hyd a lled Cymru. Mae Meic yn falch o fod yn gweithio hefo Sgript Cymru unwaith yn rhagor ac mae'n gefnogwr brwd o waith datblygu'r cwmni. Hen Bobl Mewn Ceir Fel hen bobl mewn car, profi'r byd o bell yw hanes Roy a Ceri: ef yn breuddwydio am gariad coll; hithau'n gaeth i un weithred feddw. Ond pan gyfarfu'r ddau rhy'r galon naid, a daw gobaith annisgwyl am serch. Tybed all y ddau fentro mentro, neu ydi rhych gyfarwydd eu bywydau a gormod o afael arnynt? Drama gomedi tywyll beiddgar gan un o hoff ddramodwyr Cymru. Cyfarwyddwr: Elen Bowman Cast: Alun Ap Brinley, Eiry Hughes Cynllunydd: Ben Anderson Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins Cynllunydd Sain: Dewi Evans |
| Sgript Cymru web site: www.sgriptcymru.com |
| e-mail: |
| Wednesday, October 11, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae'r cwmni ddaeth a'r ddrama ddisglair Life of Ryan…and Ronnie i chi yn dychwelyd hefo cynhyrchiad arbennig arall, Hen Bobl Mewn Ceir, gan Meic Povey. Mae Meic yn un o hoff awduron Cymru ac yn gefnogwr brwd o'r gwaith ysgrifennu newydd mae Sgript Cymru yn ei gynhyrchu. Mae cynyrchiadau llwyddiannus Meic hefo'r cwmni yn cynnwys, Life of Ryan …and Ronnie, Indian Country a Diwedd y Byd/Hen Blant. Mae Meic wrth ei fodd yn dychwelyd i weithio hefo'r cwmni ac i fod yn teithio Cymru hefo'i ddrama ddiweddaraf 'Hen Bobl Mewn Ceir.'