COMISIWN CELFMae Cwmni Theatr Arad Goch www.aradgoch.org , sydd â’i ganolfan yn Aberystwyth, yn darparu ystod eang o waith a gweithgareddau; mae prif bwyslais y cwmni ar gynhyrchu gwaith i gynulleidfaoedd ifanc . Ym 1991 prynodd y cwmni adeilad yn Stryd y Baddon, Aberystwyth fel canolfan i’w waith. Bellach, a’r cwmni a’i gynyrch wedi datblygu, mae’r ganolfan honno’n rhy fach ac anymarferol. Aethpwyd ati ddwy flynedd yn ôl i godi arian i ddatblygu canolfan newydd; codwyd £3miliwn ac ym mis Mai 2006 cychwynnwyd ar y gwaith o ehangu ar y safle bresennol a datblygu canolfan newydd i Arad Goch ac i weithgareddau eraill. Fel rhan o’r datblygiad cyffrous hwn mae’r cwmni am gomisiynu gwaith celf i’w osod yn ardal gyhoeddus y ganolfan sydd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn nhref Aberystwyth. Gwerth y comisiwn fydd £6,500 (i gynnwys ffi’r artist, deunyddiau, cost cludo a gosod y gwaith, ac chost unrhyw anghenion technegol). Ceir manylion llawn am y gofynion a disgrifiad o’r gofod trwy gysylltu â Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN. jeremy@aradgoch.org . Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 15, 2007. Cynhelir cyfweliadau ddiwedd Ionawr. ART COMMISION Cwmni Theatr Arad Goch www.aradgoch.org , which is based in Aberystwyth, provides a wide range of work and activities; the company’s main emphasis is on producing new theatre for young audiences. In 1991 the company bought a building in Bath Street, Aberystwyth to use as a production base for its work. As the company, its activities and its output developed the building in Bath Street became too small and impractical. During the last two years Arad Goch has raised £3million to develop a new centre; work began in May 2006, on the present site and incorporating the adjacent building, to develop a new centre for Arad Goch and other activities. As part of this exciting development the company wishes to commission a new art work which will be installed in the public area of the building which is currently under construction in Aberystwyth town centre. The commission is worth £6,500 (to include artist’s fee, materials, transport costs, installation and any specific technical requirements). Full details of the brief and a description of the space can be had by contacting Jeremy Turner, Artistic Director, Cwmni Theatr Arad Goch , Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN. jeremy@aradgoch.org .The closing date for applications is January 15, 2007, Interviews will be held at the end of January. |
| Arad Goch web site: www.aradgoch.org |
| Jeremy Turner e-mail: jeremy@aradgoch.org |
| Tuesday, December 5, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

COMISIWN CELF