Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cinderella fel na Welwyd ei Thebyg o'r Blaen!     

Cinderella fel na Welwyd ei Thebyg o'r Blaen! Wedi'i gosod yn y ddeunawfed ganrif yn Ffrainc gyda "Vivienne Westwood ac Andy Warhol", mae cynhyrchiad ysblennydd a hynod ddifyrrus Scottish Ballet o Cinderella, a goreogreffir gan y Cyfarwyddwr Artistig Ashley Page, yn cynnwys setiau a chynlluniau gwisgoedd moethus gan y cynllunydd llwyddiannus Antony McDonald.

Bydd Scottish Ballet yn mynd â chi ar daith hudolus i fyd ffantasi a harddwch gyda'u fersiwn arbennig o'r clasur diamser, a berfformir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 24-27 Ionawr.

Mae hanes y ferch orthrymedig a drodd yn dywysoges hardd, diolch i'r fam fedydd garedig a'r tywysog golygus, wedi gwneud Cinderella yn un o'r storïau mwyaf poblogaidd erioed.

Eglura Cyfarwyddwr Rhaglennu a Chysylltiadau Canolfan Mileniwm Cymru, "Mae Ashley Page wedi gweddnewid ffawd Scottish Ballet ers iddo gymryd yr awenau ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae Cinderella yn dangos yn union pa mor bell y mae ef, a'r cwmni, wedi dod. Cyfunir coreograffi dyfeisgar gyda sgôr glasurol Prokofiev ac mae'r effaith yn syfrdanol. Mae'n wledd i'r glust yn ogystal â'r llygad, mae'r cynhyrchiad hardd hwn yn sicr yn werth dod â phawb o'r teulu i'w weld, yn enwedig gan fod tocynnau plant yn hanner pris tocynnau oedolion."

Bydd Cerddorfa Scottish Ballet yn perfformio sgôr fywiog a lliwgar Cinderella, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Prokofiev ar gyfer Bale Bolshoi yn 1944.

Os ydych yn chwilio am anrheg arbennig y Nadolig hwn, gwledd i'r teulu neu eich bod am weld bale ar ei orau, peidiwch â cholli'ch cyfle gyda'r fersiwn hon o Cinderella - mae'n rhaid mynd i'w gweld!

Mae gan fersiwn unigryw Page o'r stori glasurol hon arddull sy'n amrywio o wreiddiau clasurol cryf i dechnegau mwy cyfoes ac egni sy'n ymestyn y stori ddiamser hon i'r unfed ganrif ar hugain. Cinderella yw'r ail fale hyd llawn gan Ashley Page ers iddo ddod i Scottish Ballet. Mae Cinderella yn ymfalchïo mewn gweledigaeth theatrig unigryw gyda choreograffi ddyfeisgar iawn, a grëwyd yn arbennig gan y Cwmni. Disgrifia Ashley hyn fel "bod yn hynod o heini a dawnsio o'r radd flaenaf, gyda phersonoliaethau, hyder ac aeddfedrwydd go iawn".

Mae tocynnau'r sioe hon yn amrywio o £5 i £30 ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch â Swyddfa Docynnau a Gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i: www.wmc.org.uk
Canolfan y Mileniwm  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Monday, December 4, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk