Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

RHEOLWR THEATR     

RHEOLWR THEATR Ar ôl ugain mlynedd o weithio fel gweinyddwr ym myd y teledu bydd gwr sy’n hanu o Ynys Môn yn rannu ei brofiadau gyda byd y theatr o hyn ymlaen

Mae Sion Hughes, sy’n wreiddiol o Benmynydd ger Llangefni, wedi’i benodi’n Reolwr Cyffredinol Theatr Genedlaethol Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw i wynebu her ddaw gyda fy ngwaith newydd,” meddai’r tad 43 mlwydd oed i dri o blant. “Fy gwaith yw rheoli a datblygu’r busnes a sicrhau’r berthynas orau gyda’n partneriaid i gyd,” ychwanegodd.

Cyn derbyn ei swydd newydd bu Sion Hughes yn Brif Weithredwr CYFLE y corff hyfforddi ar gyfer y diwydiant teledu. Cyn hynny bu’n gweithio ar staff HTV Cymru; S4C; a Theledwyr Annibynnol Cymru.

“Fel ym myd y teledu mae llwyddiant cwmni theatr hefyd yn ddibynnol ar strategaeth busnes cryf wedi’i gyfuno gyda gweledigaeth artistig, dychymyg a thalent,” ychwanegodd. “Mae’r naill yn byw oddi ar y naill a’r llall o anghenraid er mwyn llwyddiant Theatr Genedlaethol Cymru yn enwedig gyda’r gynulleidfa,” meddai.

Dyna pam fod Sion Hughes yn cynllunio mynd â rhai cynyrchiadau y tu hwnt i Glawdd Offa.

“Rwy’n credu bod yna gynulleidfaoedd i Theatr Genedlaethol Cymru’n arbennig yn Llundain,” meddai Sion Hughes.
“Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle pellach i’n actorion, dramodwyr a chyfarwyddwyr i arddangos eu talentau,” ychwanegodd.

Ond un o orchwylion cyntaf Sion Hughes fydd setlo Theatr Genedlaethol Cymru mewn cartref parhaol newydd, ynghyd â darpariaeth ymarfer, yn Ganolfan Mentergarwch Diwylliannol newydd Coleg y Drindod, Caerfyrddin.

“Mae’r adeilad ar gost o £2.5m yn brysur godi ac rwy’n edrych ymlaen i’w weld wedi’i gwblhau,” meddai Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru, Lyn T. Jones
"Rydym felly’n hynod falch o benodi Sion ar drothwy cyfnod newydd cyffrous yn hanes ein datblygiad fel Theatr Genedlaethol Cymru,” ychwanegodd.
theatr genedlaethol cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Wednesday, December 13, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk