Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

CYSGOD Y CRYMAN     

CYSGOD Y CRYMAN Mae un o nofelau enwocaf Cymru, a gyhoeddwyd yn wreiddiol dros 50 mlynedd yn
ôl pan roedd y Rhyfel Oer yn ei anterth, wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan
am y tro cyntaf.

Mae Cysgod y Cryman, gan y diweddar Islwyn Ffowc Elis, yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru. Hyd at yn ddiweddar bu’r nofel, sy’n edrych ar
gymdeithas y cyfnod drwy lygaid teulu Lleifior, fferm yn Nyffryn Dychmygol Aerwen yng Ngogledd Powys, yn lyfr gosod ar gyfer arholiadau TGAU, ac mae’r
addasiad ar gyfer y llwyfan gan y dramodydd, nofelydd a phrifardd, Siôn Eirian.

“Ni fu erioed cymaint o brynu a darllen ar nofel Cymraeg ag a fu ar Cysgod y Cryman,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin
Roberts.

“Mae cenedlaethau o ddisgyblion ysgol wedi astudio’r nofel, a ddewiswyd yn lyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif, a datblygodd hanes Harri
Vaughan a gweddill teulu Lleifior yn rhan o’n chwedloniaeth,” ychwanegodd.

Mae’r plot yn ymwneud â’r newidiadau sy’n wynebu’r teulu wrth i sicrwydd traddodiad wynebu her o gyfeiriad ideoleg, gwleidyddol a chymdeithasol newydd. Mae’r gwrthdaro’n anorfod.

“Er bod ‘Cysgod y Cryman’ yn nofel ei chyfnod ac yn ymdrin ag egwyddorion
comiwnyddiaeth mae’n anhygoel bod ei hapêl wedi goroesi yn bell ar ôl i’r
llen haearn ddiflannu,” ychwanegodd.
“Rwy’n edrych ymlaen i weld ymateb y gynulleidfa i’n hymdriniaeth o
gymeriadau y mae nhw mor gyfarwydd â nhw,” meddai.

Bydd yr addasiad llwyfan o Cysgod y Cryman mynd ar daith chwech wythnos o
gwmpas prif theatrau Cymru gan gychwyn yn:

Theatr Gwynedd, Bangor - Iau, Gwener a Sadwrn (perfformiad y prynhawn a fin
nos), Chwefror 1-3, 2007.
Theatr y Lyric, Caerfyrddin – Mawrth, Chwefror 6, 2007.
Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe – Iau a Gwener, Chwefror 15-16,
2007.
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu – Mawrth a Mercher, Chwefror 20-21, 2007
Theatr Sherman, Caerdydd – Gwener a Sadwrn, Chwefror 23-24, 2007.
Canolfan Gelfyddydau – Mawrth a Mercher, Chwefror 27-28, 2007.
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug – Llun, Mawrth 5, 2007.
Theatr Mwldan, Aberteifi – Iau, Gwener, Sadwrn, Mawrth 8-10, 2007.

Ceir perfformiad ychwanegol hefyd ar Ebrill 5, 2007, pan fydd Theatr
Genedlaethol yn teithio i Lundain am y tro cyntaf. Llwyfannir Cysgod y
Cryman yn Theatr Bloomsbury sydd heb fod nepell o Orsaf Euston.

“Rwy’n credu bod yna gynulleidfaoedd i Theatr Genedlaethol Cymru’n arbennig
yn Llundain,” meddai Rheolwr Cyffredinol Theatr Genedlaethol Cymru, Sion
Hughes.
“Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle pellach i’n actorion, dramodwyr a
chyfarwyddwyr i arddangos eu talentau,” ychwanegodd.

Mae’r perfformiadau i gyd, ar wahân i’r un y prynhawn yn Theatr Gwynedd yn
dechrau am 7.30 o’r gloch.

Ymysg y 12 o actorion sydd â yn Cysgod y Cryman mae Llion Williams, Dyfan
Roberts, Christine Pritchard, Owen Arwyn, Betsan Llwyd, Carwyn Jones ac Owen
Garmon.

Mae’r cerddor, Gareth Glyn, wedi’i gomisiynu i gyfansoddi cyfeiliant i’r
cynhyrchiad.

Er i ‘Cysgod’ y Cryman’ a’r nofel a’i dilynodd, ‘Yn Ôl i Leifior’, gael eu
haddasu ddwywaith o’r blaen ar gyfer y radio a’r teledu dyma’r tro cyntaf
i’r naill na’r llall gael eu trosglwyddo i’r llwyfan.

Mae addasiad Siôn Eirian wedi’i selio ar gynhyrchiad Saesneg ganddo rai
blynyddoedd yn ôl ar gyfer cyfres ‘The Classic Play’ ar BBC Radio 4 ac a
wnaeth gyda chydweithrediad llawn Islwyn Ffowc Elis.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, January 15, 2007back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk