Mae drama sy’n seiliedig ar anoddefgarwch crefyddol a chyfreithiol yn un odaleithiau cyntaf Yr Unol Daleithiau dros 300 mlynedd yn ôl yn cychwyn ar daith o gwmpas prif theatrau Cymru ymhen mis. Mae ‘Y Pair’ gan un o ddramodwyr amlycaf America’r ganrif ddiwethaf, Arthur Miller, ac a berfformiwyd gyntaf ym 1953, wedi’i gosod yn ystod achosion llys pentref Salem yn nhalaith Massachusetts pan gyhuddwyd 150 o fod yn wrachod. Cafwyd 14 o ferched a phum gwr yn euog ac fe’u crogwyd. Gwrthododd diffinydd arall â phledio i’r cyhuddiad ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth drwy ei wasgu o dan lwyth o gerrig. Mae ‘Y Pair’ yn gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ac fe gyfieithwyd y ddrama i’r Gymraeg gan y dramodydd a’r llenor cynhyrchiol, Gareth Miles. “Yn y ddrama mae Arthur Miller yn cyferbynnu achosion Salem i’r ymdeimlad gwrth-Gomiwnyddol ddwys dreiddiodd drwy sefydliadau gwleidyddol a cymdeithasol Yr Unol Daleithiau yn ystod pumdegau’r ganrif ddiwethaf pan gyhuddwyd, pardduwyd ac erlidiwyd miloedd o unigolion ar gam,” meddai Gareth Miles. “Ond mae tystiolaeth o erledigaeth debyg yn amlwg heddiw, nid yn unig yn America, lle mae pobl yn cael ei hesgymuno am wneud dim heblaw lleisio barn,” ychwanegodd. Gyda chast o 17 ‘Y Pair’ yw un o gynyrchiadau llwyfan mwyaf erioed yn y Gymraeg. Mae’r cast yn cynnwys wynebau amlwg ar lwyfan a’r teledu megis Llion Williams, Dyfan Roberts, Christine Pritchard a Trefor Selway, gyda Catrin Powell yn chwarae rhan arweinydd answyddogol ifanc a dichellgar gwrachod honedig Salem, Abigail Williams. “Mae hon yn ddrama emosiynol a dadlennol sy’n cyfuno cariad, cydwybod ac iachawdwriaeth,” meddai Cyfarwyddwr ‘Y Pair’, Judith Roberts. “Mae’n stori sy’n gafael ac a fydd heb os yn dychryn, cyffroi ac yn swyno cynulleidfaoedd,” ychwanegodd. “Mae’n ddrama obeithiol hefyd yn nhraddodiad dramâu mawr clasurol y byd,” ychwanegodd Gareth Miles. “Mae’n dangos sut y gall yr unigolyn oresgyn anawsterau grymus sy’n benderfynol o’i ddinistrio,” meddai. Bydd ‘Y Pair’ y cychwyn ar daith yn Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351708) ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 7-9 Chwefror, 2008, cyn mynd ymlaen i: • Canolfan Celfyddydau (01970 623232) ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 12-13 Chwefror, 2008; • Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 20-22 Chwefror, 2008; • Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe (01792 602060) ar nosweithiau Iau a Gwener, 28-29 Chwefror, 2008; • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565) ar nosweithiau Mercher, 5-6 Mawrth, 2008; • Theatr y Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3509/8) ar nos Lun, 10 Mawrth, 2008; gan orffen y daith yn • Theatr Sherman, Caerdydd (029 2064 6900) ar nosweithiau Iau a Gwener, 13-14 March, 2008. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch. ‘Y Pair’ yw’r cyntaf o dair cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer 2008. Fe’i dilynir yn y Gwanwyn gyda ‘Siwan’ gan Saunders Lewis, ac yna gyda drama newydd a dadleuol Aled Jones-Williams, ‘Iesu!’, a lwyfannir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, cyn mynd ar daith o gwmpas prif theatrau Cymru’n yr Hydref. |
| theatr genedlaethol cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, January 7, 2008 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae drama sy’n seiliedig ar anoddefgarwch crefyddol a chyfreithiol yn un o