|
1 Y Cefndir Mae’r papur hwn yn bwrw ymlaen ag addewid Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) i ymgynghori ynghylch datblygu strategaethau ar gyfer ysgrifennu newydd yn yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg - amlinellwyd yr addewid ym mhapur Strategaeth Ddrama CCC. Mae’r ymgynghori ar ysgrifennu newydd yn cydnabod swyddogaethau Dalier Sylw a Made in Wales ar hyn o bryd ynghyd â bwriad CCC i gynnwys Theatr y Sherman wrth gynllunio yn y dyfodol. Mae’r ymgynghori hefyd yn cydnabod y bydd CCC yn cryfhau’r ymrwymiad i ysgrifennu newydd trwy gytundebau cyllido gyda chleientiaid refeniw. Yn ogystal, mae’r ymgynghori hwn yn cydnabod y gwendidau ar hyn o bryd o ran datblygu gyrfa a datblygu a lleoli ysgrifennu newydd yng Nghymru. Mae CCC yn bwriadu datblygu strategaeth gynhwysfawr, neu strategaethau cynhwysfawr, ar gyfer ysgrifennu newydd gan gydgysylltu hynny â datblygiadau yn Theatr y Sherman, a bydd yn cynnwys partneriaethau strategol ledled Cymru. 2 Yr ystyriaethau Hoffai CCC glywed eich barn am ysgrifennu newydd yng nghyswllt y tri maes isod: · proses. Sut y cefnogir dramodwyr ac ysgrifenwyr ac y datblygir eu sgiliau; · gwireddu. Sut y datblygir ysgrifennu newydd ar gyfer y llwyfan; · cynulleidfa. Sut y mae ysgrifennu newydd yn cyrraedd cynulleidfaoedd. Wrth lunio eich ymateb i CCC byddai o gymorth pe baech yn rhoi sylw i’r cwestiwn hwn: Nodwch ba flaenoriaethau y dylid eu pennu i ysgrifennu newydd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, yn eich barn chi? Wrth ateb y cwestiwn hwn, dylech ystyried y blaenoriaethau o fewn y categorïau hyn: 1. datblygu sgiliau ysgrifenwyr 2. cael y gwaith wedi ei lwyfannu a’i weld 3. datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer dramâu newydd Hoffai CCC hefyd glywed beth yw barn pobl am yr hyn y dylai corff, neu gyrff ysgrifennu newydd yng Nghymru roi blaenoriaeth iddo. 3 Y broses ymgynghori Mae CCC yn ceisio barn llawer iawn o bobl a byddai’n ddiolchgar pe bai’r papur hwn yn cael ei ddosbarthu trwy rwydweithiau eraill i sicrhau bod partïon sydd â diddordeb yn cael cyfle i ymateb. Yn ogystal, mae CCC yn annog mudiadau allweddol i drefnu grwpiau ffocws bychan i drafod y materion a godwyd yn y papur ymgynghorol, neu i ganolbwyntio ar un ystyriaeth (e.e. proses). Byddai swyddogion CCC yn barod iawn i fod yn bresennol. Lle bo hynny’n briodol ymchwilir i fodelau trefniadol eraill i gefnogi ysgrifennu newydd yn y DG a thramor. Bydd ymgynghoriad CCC ar ysgrifennu newydd yn cynnwys pob buddiannwr posib a phartïon â diddordeb fel a ddangosir gan: Ysgrifenwyr unigol; cwmnïau theatr sy’n cynhyrchu (gan gynnwys Dalier Sylw, Made in Wales a Theatr y Sherman); canolfannau cyflwyno a chanolfannau celf; cleientiaid prosiect a gyllidir yn rheolaidd; cyrff proffesiynol a grwpiau ymbarél (fel Cymdeithas y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru, Grðp Cyflwyno’r Celfyddydau, Rhwydwaith y Celfyddydau Gwirfoddol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Ddrama Cymru ayb.); awdurdodau lleol sydd â diddordeb arbennig; addysg uwch sydd â chyrsiau galwedigaethol perthnasol; cyrff ffilm a chyfryngau darlledu. Bydd CCC yn gwahodd grwpiau o’r uchod i drafod a llywio agweddau o syniadau CCC ar ddatblygu ysgrifennu newydd. Bydd Panel Drama Ymgynghorol CCC yn helpu ymhellach yn y broses o ddatblygu strategaethau i’w cyflwyno i Bwyllgor Datblygu’r Celfyddydau a’r Cyngor i’w hystyried. 4 Yr Amserlen Dylech gyflwyno’ch ymateb os gwelwch yn dda erbyn dydd Llun 12 Gorffennaf 1999 i Anna Holmes, Uwch Swyddog Dawns a Drama, Cyfadran Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd. CF10 3NX neu ffacsiwch ar 029 20 221447 neu e-bostiwch at gwybodaeth@ccc-acw.org.uk Dylid galw cyfarfodydd grwpiau ffocws cyn canol Awst 1999. Mae CCC yn bwriadu datblygu ei strategaethau o ran y ddarpariaeth i’r dyfodol yn hydref 1999 gan ddechrau rhoi’r ddarpariaeth olynu ar waith ym mis Ebrill 2000. Cyfadran Datblygu’r Celfyddydau Mehefin 1999 |
| Arts Council of Wales web site: www.ccc-acw.org.uk |
| Cyfadran Datblygu’r Celfyddydau e-mail: |
| Wednesday, June 23, 1999 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
