Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

A ydych chi wedi eich cysylltu?     

A ydych chi wedi eich cysylltu? Digwyddiad rhwydweithio newydd i bawb sy’n gysylltiedig â maes datblygu cynulleidfaoedd a marchnata yma maes y celfyddydau yw CYSWLLT: Cynulleidfa Cymru.

Mae’n gyfle i bawb sy’n gweithio fel aelodau o staff cwmnïau celfyddydol, theatrau, amgueddfeydd, awdurdodau lleol, canolfannau celfyddydol ynteu orielau gyfarfod a chael gwybod am y syniadau diweddaraf â’r syniadau gorau yn niwydiant y celfyddydau.

Mae CYSWLLT: Cynulleidfa Cymru yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â’n cydweithwyr, rhannu profiadau (a phroblemau!), gweithio ar y cyd er mwyn darganfod atebion, a galluogi Cynulleidfa Cymru i ymateb lle bo modd er mwyn medru rhoi arweiniad mewn mentrau a fydd yn cynorthwyo’r sector yng Nghymru.

Bydd CYSWLLT: Cynulleidfa Cymru yn cyfarfod ar draws y rhanbarthau a gyllidir gan Cynulleidfa Cymru ym mis Ebrill a Medi bob blwyddyn.

Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur

De Orllewin Cymru
23 Ebrill 2008 (Theatr y Grand Abertawe)

De Ddwyrain Cymru
29 Ebrill 2008 (Canolfan Glanyrafon, Casnewydd)

10.00am-12.30pm

RHAD AC AM DDIM! (Darperir lluniaeth ysgafn)

AGENDA
Ebrill 2008

Y diweddaraf oddi wrth Cynulleidfa Cymru.

Gadewch i ni ddweud wrthych pwy'r’m ni a’r hyn a wnawn!

Clustnodi blaenoriaethau at y dyfodol ar gyfer cyfarfodydd CYSWLLT:Cynulleidfa Cymru. Cynhelir ar ffurf Fforwm lle i bawb.

Pa faterion, syniadau neu themâu yr hoffech chi fynd i’r afael â nhw yn nigwyddiadau CYSWLLT: Cynulleidfa Cymru yn y dyfodol? Rhannwch eich anghenion â ni ac fe gynlluniwn ddigwyddiadau’r dyfodol ar eich cyfer chi!
I archebu lle ynteu gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at june@audienceswales.co.uk ynteu rhowch ganiad i 029 20373736
Cynulleidfaoedd Cymru  
web site
: www.audienceswales.co.uk

e-mail: june@audienceswales.co.uk
Tuesday, January 29, 2008back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk