|
Yfory, fe fydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen i'r ddrama yng Nghymru. Maen nhw'n bwriadu rhoi mwy o arian i lai o gwmnau. Un fydd yn gwylio'n ofalus yw Hijinx, cwmni sy'n wynebu colli eu grant a gorfod rhoi'r gorau iddi ... Defnyddiwch eich dychymyg ... Mae yna ddau gymeriad, un yn anabl a'r llall yn iach o gorff. Maen nhw'n byw mewn hen garafan mewn dymp yn Sblott ac yn ffraeo'n ddiddiwedd. Yn y garafan mae yna drol fetal oedd unwaith yn cario bwyd i deuluoedd dosbarth canol Sainsbury's, ond nawr mae hi'n llawn o sothach. Sothach sy'n cynrychioli'r gorffennol. Lwmp o lo yn cynrychioli cyfnod streic y glowyr - cyfnod hapus pan oedd gan y ddau gymeriad gwmpeini pobol eraill. Edrychwch trwy ffenest y garafan, ydych chi'n gweld blodau ac awyr las, ynteu ddim ond diffeithwch a gwastraff? Golygfa allan o gynhyrchiad cwmni Hijinx o'r ddrama On Their Own Again gan Laurence Allen. Hijinx yw'r unig gwmni yng Nghymru sy'n rhoi llwyfan i actorion abl ac anabl ochr yn ochr. Ond os y bydd y cynigion yn strategaeth drama newydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael eu gwireddu, mae hi'n bosib y bydd y cwmni yma ar y domen sgrap, fel y cymeriadau yn eu drama eu hunain. "Does yna ddim dychymyg yn yr ardal yma; mae'r dychymyg wedi marw, mae cael cwmni Hijinx yn dod yma ac yn cyflwyno gwaith sydd mor gyson ffantastig ac mor berthnasol i fywydau pawb, o bobol sydd fwy neu lai'n anllythrennog, i bobol broffesiynol, academaidd. Mae o'n hollol unigryw," meddai Kristian Osstad, gweithwraig gymunedol sy'n hen gyfarwydd gwaith Hijinx ar un o stadau cyngor Llanishien, Caerdydd. "Does yna ddim cymdeithas yma heblaw am y clwb rygbi a'r dafarn. Fyddai'r bobol yma ddim wedi breuddwydio mynd i'r Sherman neu rywle felly." Eto i gyd, ar l iddi lwyddo i berswadio criw o ferched 'caled' yn eu harddegau i fynd i weld cynhyrchiad diweddar gan Hijinx, mi ddaethon nhw allan o'r theatr a beichio crio am nad oedden nhw "erioed wedi gweld dim byd mor brydferth", meddai. Mae'r merched hynny eisoes yn edrych ymlaen at gynhyrchiad nesa' Hijinx, a'r tro yma nhw eu hunain sydd am safio eu harian ar gyfer prynu tocynnau. "Dyma'r tro cynta' mewn chwe mlynedd a hanner i'r genod yma gynnig talu am ddim byd o'i pocedi eu hunain," meddai Kristian Osstad. "Os na fydd Hijinx yn cael dal i berfformio, fe fydd y berthynas arbennig yma wedi chwalu." Pan gafodd strategaeth ddrama Cyngor Celfyddydau ei gyhoeddi ddiwedd mis Ionawr, fe ddaeth y newyddion hefyd y gallai grant refeniw cwmni Hijinx fod mewn peryg. Roedd e'n sioc llwyr i Val Hill, gweinyddwr y cwmni. "Chawson ni ddim math o rybudd, na hyd yn oed lythyr personol, dim ond y copi o'r argymhellion. "Roedden ni'n methu credu'r peth. Roedd y Cyngor yn gwybod ein bod ni wedi comisiynu drama newydd ar gyfer taith yr hydref y flwyddyn yma, ac mae'r daith eisoes wedi ei threfnu. Rydyn ni hefyd, yn ddiweddar, wedi sicrhau grant tair blynedd i sefydlu gweithdy yn y Bae ar gyfer oedolion gyda phroblemau dysgu. "Ar ben hynny, roedden ni newydd gael clywed mai ni yw'r unig gwmni theatr i gael ein gwahodd i Ganolfan y Mileniwm, lle mai'r bwriad yw sefydlu ffordd o wneud y celfyddydau yn rhywbeth y medr plant ei ddeall a'i fwynhau trwy gael cyfrannu hands on. "Ond gyda'n grant refeniw ni'n dod i ben fis Medi, fedrwn ni ddim bod yn sicr o gwbl y byddwn ni'n dal yn bodoli erbyn y Mileniwm." Ymateb y cwmni oedd trefnu protest i dynnu sylw'r wasg ar ddiwrnod eu pen blwydd yn 18 oed, a hynny y tu allan i adeilad Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd. Pe byddech chi wedi cerdded heibio bryd hynny, fe fyddech chi wedi gweld perfformiad symbolaidd - dihiryn mewn masg yn cipio eu cacen pen blwydd o'u dwylo a'u gadael heb ddim, a'r geiriau 'Strategaeth, strategaeth' yn arwyddair i'r weithred. Fe fydd cwmni Hijinx yn protestio yfory hefyd, wrth i'r cyfarfod i drafod eu dyfodol fynd rhagddo y tu mewn i swyddfeydd y Cyngor. Maen nhw wedi derbyn nifer o lythyrau cefnogol, medden nhw, yn nodweddiadol o'r ymateb cryf y mae'r cwmni yn ei ennyn ym mhob man. Yn l Keith 'Beefy' Jenkins, yr actor anabl yn nrama Laurence Allen, roedd sefyllfa y ddrama On Their Own Again wedi effeithio un aelod o'r gynulleidfa cymaint, nes iddo ddod ato a'i daro. "Roedd hynny yn dipyn o agoriad llygad," meddai. "Mae'r bobol yma fel arfer mor annwyl, ond dyna'r math o ymateb sy'n dangos mor llwyddiannus yw'r cwmni. Roedd ein henw ni bob amser yn mynd o'n blaenau ni. Dyna sydd gan gwmni Hijinx - y medrusrwydd - maen nhw'n gwybod sut i ennill a chadw sylw pobol dan anfantais meddyliol. "Fel y ci, er enghraifft. Roedd yna gi dychmygol yn y ddrama, ac maen nhw'n holi am Bob, ac maen nhw'n gofyn pam mae fy nghymeriad i mor gas gyda'r cymeriad arall. Maen nhw'n dysgu am fywyd." Ond nid gweithio gyda phobol phroblemau dysgu yn unig y mae'r cwmni. Maen nhw'n gwneud gwaith yn y gymuned leol, ac yn cynnig cyfleoedd i bobol fel Beefy Jenkins, sydd yn anabl, i weithio ym myd y theatr. "Does yna neb arall yn fodlon rhoi gwaith i bobol fel fi," meddai. "Ond nid o ran fy hun dw i'n poeni, ond o ran y genhedlaeth nesa'. Mae Hijinx yn dangos y ffordd i bobol anabl, dangos ei bod hi'n bosib iddyn nhw wneud pethau. Fe fydd hi'n drasiedi os wnaiff y cwmni golli eu nawdd, ac mae'r ffordd mae Cyngor y Celfyddydau wedi mynd o'i chwmpas hi, wel, mae e'n anfoesol." -------------------------------------------------------------------------------- YNO O HYD ... Os y bydd Hijinx yn colli eu grant refeniw wedi cyfarfod Cyngor Celfyddydau yfory, does dim rhaid i hynny olygu diwedd y cwmni. Un o'r opsiynau eraill sydd ganddyn nhw yw gwneud cais o dro i dro am grant prosiect a fyddai'n ariannu eu gwaith am gyfnod o rai misoedd ar y tro. Ond yn l yr actores Judith Humphreys - Doctor Rachel yn Pobol Y Cwm - y ffaith bod gwaith Hijinx yn barhaol yw un o'i gryfderau. Fe fu hi'n gweithio gyda nhw ar ddau brosiect ar y cyd Chymorth Cristnogol, gan synnu at y ffordd y maen nhw'n cyfuno gwahanol ffurfiau fel cerddoriaeth, straeon, gwaith corfforol a barddoniaeth. "Mae Hijinx yn gwmni hollol unigryw ac mae ymroddiad y cwmni yn enfawr," meddai. "Yn y cynhyrchiad cynta' wnes i efo nhw, Give Us A Chance, roedd yna gyfuniad o actorion proffesiynol, pobol o'r gymuned a phobol gydag acenion arbennig, ac am y chwe mis cynta' mi oeddan ni'n cyfarfod unwaith yr wythnos. "Roedd hynny'n gyfle gwych i bawb ddod i nabod ei gilydd, ac i ni ddod yn gyfarwydd efo gweithio'n agos efo pobol dan anfantais. "Erbyn yr ail gynhyrchiad, roedd rhai o'r aelodau yn rhai oeddwn i'n eu nabod o Give Us A Chance, ac roedd hynny'n help mawr. Heb y parhad yma, heb yr ymddiriedaeth, fedr y cwmni ddim dal i weithio. Mae'r math o waith maen nhw'n ei wneud yn golygu fod yn rhaid cael sicrwydd, ac adeiladu o berfformiad i berfformiad." -------------------------------------------------------------------------------- "LLAI O GWMNIAU GWELL" Wrth gyhoeddi cynigion Cyngor Celfyddydau Cymru yngl]n 'r ffordd orau i ddatblygu drama, roedd Mike Baker, Cyfarwyddwr Datblygu'r Celfyddydau, yn cyfadde' y byddai'n rhaid i rai cwmnau roi'r gorau i weithredu oherwydd prinder arian. Ond roedd e hefyd yn credu bod rhoi mwy o arian i gwmnau eraill, yn ffordd o godi safon a chanolbwyntio ar waith cenedlaethol ym myd y ddrama Gymreig. "Ar sail y cynigion y mae'r Cyngor yn ei wneud, fe fydd modd datblygu sylfaen newydd a chryf i ddatblygu a darparu gwell gwasanaeth i bobol Cymru. Mae hyn, yn anffodus, yn golygu penderfyniadau anodd i rai cwmnau ... mae cyllido llai o gwmnau yn well, ym marn Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gam poenus ond angenrheidiol." Y ffordd ymlaen - rhai o gynigion CCC: cynyddu'r arian y mae Clwyd Theatr Cymru yn ei gael ar hyn o bryd, er mwyn cynhyrchu gwaith o safon artistig uchel yn Saesneg cynnig pwerdy newydd i gynhyrchu theatr yn y Gymraeg gwneud mwy o arian ar gael ar gyfer prosiectau drama, fel bod mwy o waith yn cael ei gynhyrchu torri'r nifer o gwmnau sy'n creu gwaith ar gyfer pobol ifanc, o wyth i bedwar cwmni. Fe fyddai'r pedwar cwmni newydd yn creu rhwydwaith cryf a fyddai'n gweithio gyda'r gynulleidfa gyffredinol hefyd |
| Golwg web site: www.golwg.com |
| GWENAN ROBERTS e-mail: |
| Thursday, March 18, 1999 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
