|
Rhaglen Hyfforddi Drama newydd ar gyfer pobl ifanc 15-19 oed yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio Stiwdio Actorion Ifanc (SAI), elfen newydd i gwricwlwm y Coleg, yn benodol ar gyfer darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i actorion ifanc cyn eu bod yn symud ymlaen i addysg uwch.‘Rydym yn gyffrous iawn yngl_n â’r fenter newydd hon, sy’n cynnig hyfforddiant actio ar batrwm conservatoire yma yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle yr ydym wedi cynhyrchu rhai o’r actorion ifanc gorau a welir ar lwyfannau, ar y teledu ac mewn ffilmiau ym Mhrydain heddiw,’ meddai’r Dirprwy Brifathro (Digwyddiadau a Mentrau), David Jackson, ‘Rydym yn hynod falch o’n Hadran Cerddoriaeth Iau ac rwy’n hyderus y bydd y Stiwdio Actorion Ifanc yr un mor llwyddiannus.’ Bydd y cwrs unigryw hwn, nad yw wedi ei seilio ar arholiad, yn dechrau ar ddyddiau Sul ym mis Medi 2008 ac yn cwmpasu'r holl feysydd hanfodol sydd eu hangen i fod yn actor llwyddiannus, gan ddatblygu sgiliau perfformio unigol i lefel uchel iawn. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau gweithdai ac yn canolbwyntio ar feysydd megis actio, symud, canu, sgiliau gornest a llais (areithyddiaeth). Bydd bwrsariaethau a ariannir gan Brifysgol Morgannwg ar gael ar gyfer y cwrs. Mae’r SAI, a seiliwyd ar lwyddiant adran Cerddoriaeth Iau ac Astudiaethau Mynediad y Coleg sydd wedi bod yn darparu hyfforddiant cerddoriaeth o’r radd flaenaf i blant, pobl ifanc ac oedolion am dros ddeng mlynedd, yn argoeli i fod yn rhan ysgogol o’r Coleg a fydd yn tyfu’n gyflym. Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, mae gan y Coleg enw da am ddarparu’r lefel uchaf o hyfforddiant conservatoire yng Nghymru a chaiff hefyd ei ystyried fel un o’r prif ddarparwyr yn y DU. Bydd aelodau’r Stiwdio Actorion Ifanc yn elwa ar yr holl fanteision y gall conservatoire blaenllaw eu cynnig. Bydd gan ei myfyrwyr fynediad at gyfleusterau arbenigol iawn y Coleg a darperir yr hyfforddiant gan dîm o diwtoriaid proffesiynol nodedig a phrofiadol, sydd hefyd wrth law i gynnig cyngor yngl_n â gyrfaoedd. Gwnaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ‘…fy mowldio i fod yn actores broffesiynol.’ Kimberley Nixon (Actio 2007), sydd eisoes wedi ymddangos yn Cranford gyda'r Fonesig Judy Dench ar y BBC a bydd yn ymddangos yn fuan mewn sawl ffilm gan gynnwys Wild Child ac Easy Virtue gyda Colin Firth Mae gan y Coleg enw da am sicrhau bod ei fyfyrwyr yn mwynhau amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a diogel iawn lle gallant ddatblygu eu sgiliau perfformio, cyfarfod â phobl sydd â’r un diddordebau â hwy a meithrin yr hyder i ymchwilio'u talentau yn llawn. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer pecyn gwybodaeth ewch i rwcmd.ac.uk, e-bost yas@rwcmd.ac.uk neu ffoniwch 029 2039 1394 |
| Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru web site: rwcmd.ac.uk |
| e-mail: yas@rwcmd.ac.uk |
| Tuesday, June 24, 2008 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio Stiwdio Actorion Ifanc (SAI), elfen newydd i gwricwlwm y Coleg, yn benodol ar gyfer darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i actorion ifanc cyn eu bod yn symud ymlaen i addysg uwch.