Er bod cymeriadau cofiadwy y dramodydd o Eifionydd, William Samuel Jones (WS Jones neu Wil Sam), yn rai Gymraeg a Chymreig o ran iaith ac anian, y mae nhw hefyd yn perthyn i steil o ysgrifennu sydd â chyd-destun Ewropeaidd iddo.Dablygwyd Theatr yr Abswrd gan ddramodwyr byd enwog fel Harold Pinter, Eugene Ionesco a Samuel Beckett yn ystod ail hanner yr Ugeinfed Ganrif. Mae’n steil sy’n fath ar gomedi ond sy’n gymysg ag elfennau trasig gyda’r cymeriadau wedi’u caethiwo mewn sefyllfaoedd anobeithiol ac yn cael ei gorfodi i ail adrodd ac ail wneud yr un pethau gan ddefnyddio deilalog sy’n llawn ystradebau a chwarae ar eiriau. “Roedd Wil Sam yntau’n feistr ar y math yma o ysgrifennu,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts. “Gan ei osod yn solet gyda’r dramodwyr enwog eraill yng nghanol traddodiad Theatr yr Abswrd,” ychwanegodd. Un o enghreiffrtiau gorau WS Jones o’r math yma o ddrama yw “Bobi a Sami” fydd ar daith yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth o dan y teitl “Bobi a Sami...a Dynion Eraill". Mae’r cynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru’n cynnwys yr actorion profiadol Llŷr Evans, Sion Pritchard a Llion Williams. Yn ogystal â pherfformio “Bobi a Sami” bydd y tri hefyd yn llwyfannu monoloh newydd sbon Luned Emyr, “Meical” ynghyd â dwy o ddramâu heb eiriau gan Samuel Beckett. “Ein nod yw ceisio gwerthfawrogi a deall y dylanwadau fu ar waith Wil Sam,” ychwanegodd Cefin Roberts sy’n cyd-gyfarwyddo’r cynhyrchiad gyda Judith Roberts. “Dyma gyfle Theatr Genedlaethol Cymru i anrhydeddu mawredd y y dramodydd nodedig hwn a’i gyfraniad i fyd y ddrama Gymraeg,” meddai. Cynllunwyd y set ar gyfer y cyhyrhciad gan ŵyr WS Jones, Gwyn Eiddior Parry a chyfannsoddwyr y gerddoriaeth gan aelod o’r grŵp “Sibrydion”. Nick Mumford dyn gyfrofol am y goleuo. Bydd y saith yn cychwyn yn Y Llwyfan, Caerfyrddin (01267 233882) ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 11–13 Chwefror, 2009 cyn mynd ymlaen i: · Galeri, Caernarfon (www.galericaernarfon.com) ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 17–20 Chwefror, 2009. · Theatr y Gromlech, Crymych (01239 831455) ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 24–25 Chwefror, 2009. · Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (www.aberystwythartscentre.co.uk) ar nos Sadwrn, 28 Chwefror, 2009. · Y Neuadd Les, Ystradgynlais (www.thewelfare.co.uk) ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 3–4 Mawrth, 2009. · Stiwdio Weston, Canolfan a Mileniwm, Caerdydd (www.wmc.org.uk) ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 6-7 Mawrth, 2009. · Neuadd Goffa, Cricieth (01766 522491) ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 10–11 Mawrth, 2009. · Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (www.clwyd-theatr-cymru.co.uk) ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 13–14 Mawrth, 2009. Oherwydd ffurf y seddi cyfyngir y cynulliedfaoedd i 120 ym mhob perfformiad. Bu farw WS Jones ym mis Tachwedd, 2007. |
| Theatr Genedleathol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, January 12, 2009 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Er bod cymeriadau cofiadwy y dramodydd o Eifionydd, William Samuel Jones (WS Jones neu Wil Sam), yn rai Gymraeg a Chymreig o ran iaith ac anian, y mae nhw hefyd yn perthyn i steil o ysgrifennu sydd â chyd-destun Ewropeaidd iddo.