Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Datganiad - Cyngor Celfyddydau Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru     

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn anelu at gyrraedd safonau uchel o weinyddu wrth gyflawni ei ddyletswydd cenedlaethol o ddatblygu'r Celfyddydau yng Nghymru. Mae'n ymrwymedig i'w bolisi o geisio gwella ei strwythurau a'i weithdrefnau rheoli yn barhaol ac mae eisoes wedi cychwyn gwerthuso effaith yr ailstrwythuro mewnol a gwblhawyd ym 1998.

Mae CCC yn croesawu'r penderfyniad a wnaed gan Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant ar ôl 16 oed i weithio gyda CCC wrth gynnal ei arolwg. Fel un o'r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, cred CCC ei bod hi'n amserol, wrth gynnal arolwg o'i bolisi diwylliannol, i'r Pwyllgor gynnal ei astudiaeth dros y misoedd nesaf.

Mae gan CCC a'r Cynulliad Cenedlaethol nod cyffredin o sicrhau fod trefniadau gweinyddol CCC, gan gynnwys ei systemau a'i weithdrefnau, yn addas i gynnal busnes CCC nawr ac yn y dyfodol. Mae CCC yn cytuno â Tom Middlehurst, Ysgrifennydd y Cynulliad, fod "angen i bob sefydliad gael archwiliad fel hyn o bryd i'w gilydd". Mae CCC yn edrych ymlaen at drafod y cylch gorchwyl ac at weithio mewn partneriaeth agos â'r pwyllgor.
Arts Council of Wales  
web site
: www.ccc-acw.org.uk
Penny Simpson, Swyddog y Wasg CCC
e-mail:
Wednesday, January 19, 2000back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk