|
Cyngor Celfyddydau Cymru - Datganiad yngly^n â Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru |
|
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn ymrwymedig i sefydlu seiliau cryfach a mwy cynaliadwy ar gyfer dyfodol Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu'n rhaid i CCC awgrymu newidiadau ar gyfer ariannu theatr i bobl ifanc oddi fewn i'w arolwg cyffredinol o'r ddrama yng Nghymru. Roedd hyn o ganlyniad i effaith ad-drefnu llywodraeth leol, rheolaeth leol o ysgolion a chyfyngiadau ar wariant awdurdodau lleol ar y celfyddydau. Gyda'i gilydd, arweiniodd y ffactorau hyn at leihad yn yr adnoddau a oedd ar gael i dalu am gynyrchiadau i bobl ifanc. Y llynedd, cyhoeddodd CCC ei strategaeth ddrama a oedd yn cynnig canolbwyntio nawdd ar bum theatr i bobl ifanc yn hytrach na'r wyth presennol. Gwnaeth CCC ymdrech i glywed barn pob grw^p a oedd â diddordeb, ac yn dilyn trafodaethau diweddar gyda Chymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru, mae CCC wedi penderfynu cynnal rhwydwaith yr wyth cwmni blaenorol am flwyddyn arall. Mae hyn yn golygu y bydd cyllid yn cael ei ddarparu i'r wyth cwmni sydd yn darparu theatr i bobl ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd. Dywedodd Sybil Crouch, Cadeirydd CCC, "Cyflwynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ymatebion rhesymol iawn i'n cynigion. Mae CCC a CLlLC yn gyd-ymrwymedig i ddarparu darpariaeth genedlaethol theatr i bobl ifanc yng Nghymru. Mae CCC yn edrych ymlaen at gynnal trafodaethau manwl pellach gyda CLlLC yngly^n â threfniadau i weithio ar y cyd i ddarparu ein nod o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl trwy Gymru." Dywedodd Cyng. Jeff Jones, llefarydd CLlLC ar Addysg, "Mae CLlLC yn awyddus i weithio tuag at ddatblygu ffordd gynaliadwy ymlaen mewn partneriaeth â CCC i sicrhau darpariaeth theatr i bobl ifanc o safon uchel i bobl ifanc Cymru." |
| Arts Council of Wales web site: www.ccc-acw.org.uk |
| Penny Simpson, Swyddog y Wasg Cyngor Celfyddydau Cymru e-mail: |
| Wednesday, January 19, 2000 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
