![]() Mae Gwen yn ferch fach bryderus dros ben. Mae’n ofni’r gwaethaf ym mhob sefyllfa a does neb yn deall pam. Ond un diwrnod, wrth i’w thad ddarllen stori ‘Martha Drafferthus’ iddi daw’r prif gymeriad, sy’n gath, i fyd Gwen. Yn raddol, mae perthynas yn datblygu rhwng y ddwy wrth iddynt ddod i ddeall a pharchu ei gilydd. Wedi ambell dro trwstan, caiff Gwen ymlacio a sylweddoli sut y gall ffynnu a gorchfygu ei anawsterau trwy ymddiried mewn eraill. Trwy gyfrwng cerddoriaeth byw, caneuon a phypedau, cawn berfformiad sy’n herio’r disgyblion i ddefnyddio’i dychymyg a phrofi ystod o deimladau ac emosiynau. Wrth ystyried profiadau’r cymeriadau bydd yn rhoi cyfle i’r disgyblion edrych o safbwynt eraill a gweld y byd mewn golwg newydd. “Nod y cwmni oedd creu perfformiad fyddai’n tanio’r dychymyg a deffro’r synhwyrau gan gyflwyno plant i’r sgiliau sy’n angenrheidiol i drafod ac adnabod emosiynau. Roeddwn yn awyddus i greu prosiect cyflawn fyddai’n apelio i blant ifanc ar sawl lefel – a dyna’r rheswm tu ôl i’r syniad o ddefnyddio cerddoriaeth byw a phypedau.” Iola Ynyr, Cyfarwyddwraig Artistig, Cwmni’r Frân Wen. Mae’r cwmni’n ymfalchïo yn y cast amryddawn sydd yn cymryd rhan yn y prosiect sef Ioan Evans a Manon Wyn Williams. Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set: Mari Elain Gwent Cynllunydd a Gwneuthurwr Pypedau: Owen Glynne Davies Darlunydd: Jac Jones Cerddoriaeth a Cherddor ar daith: Neil Browning Rheolwr Llwyfan: Steffan Cravos Mae ‘Martha Drafferthus’ wedi ymweld â sawl ysgol yn barod ac wedi derbyn ymateb gwych: “Roedd y cyflwyniad yn y dosbarth yn glir ac roedd y perfformiad yn y neuadd yn gwbl wefreiddiol gan y ddau actor a cherddor talentog. Mae cael actorion ac ysgrifenwyr proffesiynol yn adnodd ardderchog i ddelio â phynciau o’r math. Mae plant yn ymateb yn wahanol weithiau i oedolion anghyfarwydd ac mae athrawon yn medru datblygu'r syniadau yng nghysgod cymeriadau’r perfformiad.” Manon Dauncey Griffiths, Ysgol Llandygai “Mae Theatr mewn Addysg yn ddiddorol ac yn gyfrwng hollol wahanol i’r hyn yr ydym yn ei wneud ar lawr y dosbarth. Mae’n braf cael gwylio sioeau Cymraeg sy’n ymdrin â themâu sy’n berthnasol.” Iola Jones, Ysgol Pencae Dathlu 25 mlynedd Mae Cwmni’r Frân Wen yn dathlu 25 mlynedd o ddarparu gwasanaeth Theatr mewn Addysg o safon eleni. Sefydlwyd Cwmni’r Frân Wen ym 1984 fel rhan o weithgarwch Canolfan Gelfyddydau Theatr Ardudwy yn Harlech. Sefydlwyd y Cwmni newydd er mwyn darparu prosiectau Theatr mewn Addysg i Ysgolion Awdurdod Addysg Gwynedd, fel yr adwaenid y sir ar y pryd. Yr athroniaeth o’r cychwyn cyntaf oedd cyflwyno profiad theatrig safonol i ddosbarth o ddisgyblion ar y tro, i’w ddefnyddio fel adnodd addysgol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwmni wedi datblygu’n sylweddol ers hynny ac erbyn hyn yn darparu gwasanaeth Theatr mewn Addysg gwbl ddwyieithog. Mae’n ogystal wedi ehangu ei raglen artistig i gynnwys prosiectau theatr ieuenctid a chynyrchiadau prif lwyfan ac yn gyson yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu’r weledigaeth artistig ymhellach. Mae’r Cwmni erbyn hyn yn derbyn nawdd o’r pwrs cyhoeddus gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Celfyddydau Cymru. Oherwydd newidiadau strwythurol o fewn Coleg Harlech, symudodd y Cwmni yng Ngorffennaf 1995 i’w gartref presennol yn Yr Hen Ysgol Gynradd, Porthaethwy. Beth arall sydd ar y gweill? ‘C’laen’ gan Iola Ynyr Prosiect Theatr mewn Addysg ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ar daith rhwng 18 Mai a 10 Gorffennaf 2009 Yn dilyn ceisiadau gan nifer o ysgolion yr ardal am brosiect sy’n ymdrin â bwlio, bydd y cwmni yn ail-ymweld â phrosiect a deithiwyd yn wreiddiol yn 2001. Mae Manon yn gymeriad unig sy’n gwneud bywyd pawb yn annifyr. Llwydda i berswadio Iwan a Dewi i ymuno â hi mewn safle adeiladu tai gyda’r bwriad o ddewis un yn ffrind. Penderfyna’r ddau gytuno i’w chyfarfod oherwydd apêl ei hymddygiad eithafol. Yn y pendraw, dyhead y tri chymeriad yw’r angen i alw rhywun yn ffrind. Gwelir faint mae’r tri yn fodlon mentro cyn i’r sefyllfa fynd yn rhy bell…….. ‘Y Gwylliaid, Y Bonheddwyr a’r Brain’ gan Bethan Gwanas a Gai Toms Sioe Blant, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a’r Cyffiniau, 2009 Be fyddai criw bach o Wylliaid Cochion Mawddwy yn ei wneud tasen nhw'n disgyn drwy dwll amser i fis Awst 2009? Wel, dychryn yn rhacs ac yna gwneud eu gorau glas i gyrraedd y Steddfod, debyg iawn! Ond mae'r ffordd yn hir a'r Brain a'r Bonheddwr Mawr (a chas) o'r Bala yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w rhwystro rhag cyrraedd. Diolch byth am ambell wrach, Goth a chân i'w helpu ar y daith! Mae Cwmni’r Frân Wen wedi ei gomisiynu i gynhyrchu’r sioe blant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac wedi hen gychwyn ar y gwaith paratoi! Mae Bethan Gwanas a Gai Toms wedi bod yn brysur ers misoedd yn sgriptio a chyfansoddi sioe wreiddiol arbennig iawn. Rwy’n si_r fod y teitl ‘Y Gwylliaid, Y Bonheddwyr a’r Brain’ yn ddigon i ennyn eich chwilfrydedd felly dewch draw i bafiliwn yr Eisteddfod ar nos Sadwrn, 1af o Awst i weld doniau disglair criw o bobl ifanc Meirion a’r Cyffiniau. Am fwy o fanylion yngl_n â lleoliadau ac amseroedd perfformiadau ac ati yna cysylltwch â Nia Jones yn y swyddfa ar 01248 715048 neu drwy e-bost post@franwen.com. |
web site: www.franwen.com |
e-mail: post@franwen.com |
Monday, March 9, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999