![]() “Mae’r Cwmni’n ymwybodol iawn mai Venue Cymru yw’r unig theatr drwy’r Gogledd i gyd sy’n gallu darparu ar gyfer y cynhyrchiad,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, ElwynWilliams. “O dan yr amgylchiadau y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw mynd peth ffordd i ateb costau teithio’r gynulleidfa sy;’n bwtroadau teithio I Landudno mewn bws,” ychwanegodd. Tŷ Bernarda Alba yw drama olaf Lorca – y bard a’r dramodydd a ddienyddwyd yn ystod y Rhyfel Cartref yn Sbaen. poet and renowned dramatist executed during the Spanish Civil War. Addaswyd y ddrams i’r Gymraeg gan y Prifardd a’r Prif Lenor, Mererid Hopwood – yr unig wraig erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal ag ennill Coron a Medal Ryddiaith y Brifwyl. “Mae dawn ysgrifennu Mererid yn disgleirio unwaith eto yn ei haddasiad o ddrama olaf a drama mwyaf dirdynol Lorca,” meddai is-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts. “O ganlyniad y mae hi bellach wedi ymuno â rhestr hir o’n llenorion amlycaf sydd wedi llwyddo cyflwyno dramâu mwyaf Ewrop i gynulliedfa Gymraeg,” ychwanegodd. Mae’r ddrama, sy’n ymwneud â chaethiwed, dioddefaint ac ymddygiad o fewn y teulu, wedi lleoli mewn tŷ yng nghefn gwlad Sbaen. Yn y tŷ mae Bernarda, gwraig weddw 60 mlwydd oed, â rheolaeth lwyr ac enbyd dros pawb o fewn y muriau gan gynnwys ei phum merch. Er bod y perthynas rhwng merched a dynion yn thema parhaus drwy’r ddrama nid oes yr un dyn yn ymddangos ar y llwyfan. Cwblhawyd y ddrama toc cyn dechrau Rhyfel Cartref Sbaen ym 1936 ond ni chafodd ei pherfformio am naw mlynedd arall. Gwaharddwyd gwaith Lorca gan yr unben Franco gyda gorthrwm creulon Bernarda’n y ddrama’n cael ei ddehongli’n barodi o ymddygiad rheolwyr gwleidyddol Sbaen yn eu dydd. Cipiwyd a llofruddwyd Lorca gan bobl anhysbys ac ni chafwyd hyd i’w gorff. Mae’r ymchwiliad i’w farwolaeth yn parhau fel rhan o’r ymholiadau i droseddau y erbyn y ddynoliaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen a theyrnasiad Franco. Mae aelodau cast Tŷ Bernarda Alba yn cynnwys rhai o’n hactoresau llwyfan mwyaf amlwg a phrofiadol fel Sian Alwen Ffion Wyn Bowen, Rhian Jayne Bull, Carys Eleri, Jenny Livsey, Betsan Llwyd, Catrin Morgan, Rhian Morgan, Sharon Morgan, Christine Pritchard a Tonya Smith. Y cyfarwyddwr yw Judith Roberts gyda Nick Munford yn goleuo a Colin Falconer yn cynllunio’r set. Cyfansoddwr y gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad gan Conor Linehan. Perfformir Tŷ Bernarda Alba yn Venue Cymru Llandudno (01492 872000) http://www.venuecymru.co.uk/ ar nosweithiau Iau a Gwener, 18-19 Mehefin, 2009. Mae pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch a dylai’r rhai sydd am fanteisio y y cymorth ariannol i deithio i Landudno ffonio 01267 233 882. Noddir Theatr Genedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru. |
Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Monday, June 8, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999