![]() YN NEUADD LLANDDERFEL, GER Y BALA (yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol y Bala) NOS IAU 6ed o Awst am 7.00y.h. Fel un fu’n gyfaill, cydweithiwr ac yn aml iawn yn ysbrydoliaeth i’r diweddar Wil Sam Jones mae Stewart Jones mewn lle unigryw i gyflwyno sgwrs yn frith o atgofion am fywyd a gwaith y Dewin eiriau o Eifionydd. Yn ei ffordd ddihafal ei hun fe fydd Stewart yn cyflwyno cymysgedd o atgofion a detholiadau o gerddi, ysgrifau a dramâu Wil Sam a’u plethu i gynnig naws o ddifyrrwch pur. Cyfle i glywed hen ffefrynnau ac ambell i em aeth yn angof, ac efallai’n wir y cyfle prin i gael cyfarfod Ifans y Tryc unwaith eto. I ARCHEBU TOCYNNAU GELLIR FFONIO LINDA 01286 676335 (cyn yr Eisteddfod) ac yn ystod y Steddfod ffoniwch: 07740637648. Yn ystod wythnos yr eisteddfod yn y Bala bydd y tocynnau ar werth hefyd yn Theatr y Maes. Os oes yna unrhyw gymdeithas/capel/ysgol/coleg sydd â diddordeb mewn gwahodd Stewart gyda’r cyflwyniad ‘Wil Sam y Dewin Geiriau’ i’w hardal/cymdeithas cysylltwch â Linda Brown, Theatr Bara Caws 01286 676335 neu tbaracaws@btconnect.com. |
Bara Caws web site: tbaracaws@btconnect.com |
e-mail: |
Wednesday, July 8, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999