![]() Yn y Flwyddyn Newydd, bydd tîmau ThCIC yn teithio ar hyd a lled Cymru yn chwilio am rai o actorion, dylunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr mwyaf talentog Cymru. Mae ffurflenni cais ar gael 'NAWR a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais wedi'u llenwi yw Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2009. Mae cyfres o glyweliadau gweithdy ar gyfer y Theatr Ieuenctid (wedi'u hanelu at bobl ifanc rhwng 16 – 21 mlwydd oed) yn cael eu trefnu mewn lleoliadau trwy Gymru yn ystod Ionawr – Ebrill 2010. Fel rhan o fod yn aelod o ThCIC cynhelir cyfnod dwys o hyfforddiant ac ymarfer yn ystod yr haf, ynghyd â'r posibilrwydd o berfformiadau cyhoeddus ar raddfa fawr mewn rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru. Yn 2009, teithiodd y Theatr Ieuenctid i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug a Sherman Cymru, Caerdydd. Felly …. cysylltwch a chymrwch ran! Gellir cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cais gan www.nyaw.co.uk neu o: CCIC, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX (( 02920 265 006; * nyaw@nyaw.co.uk ) |
web site: www.nyaw.co.uk |
e-mail: nyaw@nyaw.co.uk |
Saturday, November 7, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999