Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

CYFARWYDDIADAU NEWYDD I FWRDD RHEOLI THEATR Y TORCH     

CYFARWYDDIADAU NEWYDD I FWRDD RHEOLI THEATR Y TORCH Mae Theatr y Torch wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i’w Bwrdd Rheoli ar ôl y cyfarfod cyntaf yn y Flwyddyn Newydd.

Yn dilyn deng mlynedd wrth y llyw, mae’r Cadeirydd Tim Arthur wedi ymddiswyddo gyda thri aelod newydd yn ymuno â’r tîm i dywys canolfan celfyddydau Aberdaugleddau i’r degawd newydd gyda chyfeiriad newydd cryf ar gyfer y dyfodol.

Mae Tim Arthur wedi llywio’r Torch trwy ei phrosiect mwyaf uchelgeisiol a heriol hyd yn hyn, gyda chynllun datblygu £5.4m i ehangu’r Theatr wedi ei gwblhau ym Mawrth 2008. Bu Tim yn gysylltiedig â’r Torch mewn nifer o wahanol ffyrdd ers 1977, ac mae’n cyfrif creu'r theatr ieuenctid yn un o’i gyflawniadau pennaf. Bydd yn parhau ar y Bwrdd Rheoli a bydd y meddyg o Aberdaugleddau, Carol Mackintosh, yn cymryd yr awenau. Yn frwd dros theatr fyw ac yn ymwneud â nifer o grwpiau a gweithgareddau drama yn Sir Benfro, roedd Carol yn flaenorol yn Is-gadeirydd y Bwrdd.

Yn dilyn ail-lansiad y Torch newydd bron dwy flynedd yn ôl, ailystyriodd y Bwrdd Rheoli strwythur a chyfeiriad y Theatr fel sefydliad wedi ei helaethu, a dros y flwyddyn ddiwethaf maent wedi diffinio ei huchelgeisiau artistig a busnes am y tair blynedd nesaf a thu hwnt. Fel rhan o’r broses honno, canfuwyd trwy archwiliad sgiliau pa feysydd oedd angen eu cryfhau yn y tîm er mwyn sicrhau cyflawniad parhaol y Theatr yn y dyfodol. Gwnaethpwyd o ganlyniad tri phenodiad: yr Ymgynghorydd Cymunedol a Materion Llywodraethol Dragon LNG, Wendy Goldsworthy; yr Ymgynghorydd Adnoddau Dynol a Rheoli Busnes Nia Marshall, a’r wraig busnes leol a therapydd lleferydd ac iaith, Julia Ritchie MBE.

Mae Tim Arthur yn credu bod yr ymateb aruthrol i’r ymgyrch recriwtio yn adlewyrchu’r statws y mae Theatr y Torch wedi ei ennill o fewn y gymuned dros y 30 mlynedd diwethaf. Meddai Tim, mae’r Torch wedi sefydlu Aberdaugleddau a Sir Benfro fel canolfan rhagoriaeth ar y map artistig o Gymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’n haelodau newydd ar fentrau’r Bwrdd bydd yn cynorthwyo gyda datblygu profiad y cwsmer a rhaglennu artistig.

Dechreuodd yr aelodau ar y gwaith o ymgyfarwyddo’u hunain yn fwy â gwaith y cwmni tua diwedd mis Ionawr. Yn dilyn ei chyfarfod cyntaf, nododd, Wendy Goldsworthy Ces i argraff dda o’r holl waith caled oedd yn gysylltiedig â’r prosiect ailadeiladu a’r cynllun busnes newydd, a gobeithiaf y bydd fy sgiliau a’n arbenigedd busnes, ynghyd â’r cysylltiadau niferus rwyf wedi eu casglu dros nifer o flynyddoedd yn Sir Benfro yn ychwanegiad defnyddiol i’r Torch. Mae ‘na gyfleoedd am fwy o ryngweithio gyda’r gymuned busnes leol a gyda grwpiau cymunedol y byddai’n fanteisiol i bawb.

Mae’r Bwrdd Rheoli yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y Theatr yn rhedeg mewn modd effeithiol, am ddatblygu polisi ac am faterion busnes y cwmni. Mae gan y pymtheg cyfarwyddwr gyfrifoldebau o dan gyfraith elusen a chwmni, ac am gyfarwyddo busnes y Torch yn gyffredinol, gan sicrhau bod y cwmni yn aros yn ddiddyled ac yn cyflwyno ei amcanion.

Daw Nia Marshall atom gyda chyfoeth o brofiad ymarferol mewn Adnoddau Dynol, codi arian a datblygu masnach a busnes. Mae ei phrosiectau niferus yn cynnwys cefnogi datblygiad cleientiaid busnes o fewn y Sir, gan ddiogelu nawdd yn llwyddiannus o ystod o ffynonellau. Nododd Nia Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno â’r bwrdd yn y cyfnod arbennig hwn. Edrychaf ymlaen at gefnogi’r Torch, fel ased cymunedol hanfodol, ac yn ei datblygiad busnes fel canolfan i ddawn artistig a gydnabyddir yn genedlaethol.

Bu Julia Ritchie yn gwylio’r Torch yn tyfu ac yn ffynnu ers iddi ddychwelyd i’r Sir chwe blynedd yn ôl. Rwyf bob amser wedi bod yn gefnogwr brwd o gynyrchiadau Cwmni Theatr y Torch...meddai Julia....mae Peter Doran a’r tîm yn cyflwyno gwaith aruthrol y byddai’n destun cenfigen i unrhyw ddinas fawr ym Mhrydain, felly mae gallu mwynhau'r fath steil a natur broffesiynol yn lleol, yn beth ffantastig. Nawr, gyda’r adeilad newydd, oriel hyfryd a chaffi grêt, mae’n her i dîm y Torch i adeiladu ar y gorffennol, i wrando ar yr hyn mae’r gymuned eisiau o’i theatr leol, a rhagori mewn ansawdd artistig.

Caiff barn Julia ei adleisio gan yr arweinydd newydd Carol Mackintosh, sy’n dweud Rydym ar drothwy oes newydd - mae ein cynllun busnes newydd yn anelu at fynd â’r Torch mewn cyfeiriad newydd a fy mlaenoriaeth gyntaf fydd i oruchwylio gweithredu’r cynllun bydd yn ein lansio i’r degawd newydd ac i ddyfodol cyffrous newydd.
Torch Theatre  
web site
: www.torchtheatre.co.uk

e-mail:
Thursday, February 4, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk