Theatr Colwyn, Bae Colwyn 15-17 Ebrill 2010 Galw am Gystadleuwyr Mae Cymdeithas Ddrama Cymru yn gwahodd cystadleuwyr i gymryd rhan yng Ng_yl Ddrama Un Act Bae Colwyn. Mae grwpiau theatr amatur yn cael eu gwahodd i gyflwyno drama un act sydd rhwng 25 a 50 munud o hyd i’r _yl sydd yn ffurfio rhan o’r rownd gyntaf o _yl Genedlaethol y Theatr Gymunedol. Mae’r sawl sydd yn cystadlu yn yr _yl hon yn cael eu marcio ar y cyd gyda’r grwpiau theatr amatur eraill sydd yn cystadlu yn y 7 o wyliau rhanbarthol sydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru a bydd y 6 gr_p sy’n sgorio’r nifer uchaf o farciau yn cael eu gwahodd wedyn i gystadlu yn Rownd Derfynol Cymru o’r _yl Ddramâu Un Act (sydd i’w chynnal eleni yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe ar y 4ydd a’r 5ed o Fehefin 2010). Bydd y gr_p sy’n ennill Rownd Derfynol Cymru yn mynd ymlaen wedyn i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Prydain o’r _yl Ddramâu Un Act a fydd ym 2010 yn cael ei chynnal yn Theatr y Pentref, Dwyrain Kilbride, yr Alban. Mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn yr _yl yn derbyn beirniadaeth gyhoeddus o’u cynhyrchiad gan feirniad theatr profiadol a chymwys. Dyma broses werthfawr sydd yn cynnig cyngor amhrisiadwy ac adeiladol gan weithiwr proffesiynol cydnabyddedig a dealltwriaeth lawnach o’r cynyrchiadau i gynulleidfa’r _yl. Mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan yn yr _yl ond bydd angen blaendal dychweladwy o £25 ar GDdC oddi wrth pob gr_p. Mae’r blaendal yn cael ei ad-dalu unwaith bo’r grwpiau wedi perfformio yn yr _yl. Er mwyn cofrestru eich diddordeb i gymryd rhan yn yr _yl hon, cysylltwch gyda Gary Thomas o Gymdeithas Ddrama Cymru ar 029 2045 2200 neu drwy e-bost, gary@dramawales.org.uk. |
| drama association of wales web site: www.dramawales.org.uk |
| e-mail: gary@dramawales.org.uk |
| Tuesday, February 9, 2010 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Theatr Colwyn, Bae Colwyn