Bydd drama gafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol 45 o flynyddoedd yn ôl yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf erioed fis nesaf.Cyhoeddodd y diweddar Dr Saunders Lewis ei ddrama fer, “Yn y Trên” yn y cylchgrawn Barn ym 1965. Bydd y gomedi ddu sy’n mynd o dan groen y berthynas sy’n datblygu rhwng dau sy’n cyfarfod ar hap yn un o ddwy ddrama fydd ar daith o ganolfannau led led Cymru gan Theatr Genedlaethol Cymru. Y ddrama arall yw “Dau Un Un Dim” gan Manon Wyn sydd hefyd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar y daith. Lleolir y ddrama hon 100 mlynedd i’r dyfodol gan godi cwestiynau am foesoldeb arbrofion geneteg. “Rwy’n edrych ymlaen yn arw i gyflwyno’r ddwy ddrama i’r gynulleidfa,” medda’r actores adnabyddus, Betsan Llwyd, sy’n gyfrifol am ei chynhyrchiad cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru. “Er bod gwahaniaethau mewn lle, amser a chynnwys rhwng y ddwy ddrama y mae yna elfennau sy’n gyffredin hefyd fydd yn eu hamlygu eu hunain yn ystod y perfformiadau,” ychwanegodd. Cast o ddau’n unig sydd yna yn y ddwy ddrama. Mae Rhodri Meilir yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn y rhaglen gomedi “My Family”. Bu’r actor o’r Wyddgrug hefyd â rhannau yn “Dr Who” a “Caerdydd”. Mae Lowri Gwynne, sy’n wreiddiol o Gricieth, hefyd yn actores gyfarwydd ar y llwyfan ac ar gyfresi teledu megis “Rownd a Rownd” a “Blodau”. Bydd y daith chwe wythnos yn dechrau ym Mhafiliwn Ceneldlaethol Cymru Pontrhydfendigaid ar nosweithiau Iau a Gwener, 13-14 Mai, 2010, cyn mynd ymlaen i: · Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 18-19 Mai, 2010; · Neuadd yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 21-22 Mai, 2010; · Neuadd Goffa, Cricieth, ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 25-26 Mai, 2010; · Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 28-29 Mai, 2010; · Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 03-05 Mehefin, 2010; · Theatr Mwldan, Aberteifi ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 09-11 Mehefin, 2010; a · Galeri, Caernarfon, ar nosweithiau Mawrth, Mercher a Iau, 15-17 Mehefin, 2010. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30pm. Bydd y perfformiadau yn Llanbedr Pont Steffan yn y cyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron gerllaw. “Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol gan i Manon Wyn ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Angharad Williams. “Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni gysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc gan mai nhw, wedi’r cwbl, yw cynulleidfaoedd theatrau’r dyfodol,” ychwanegodd. Cefnogir Theatr Genedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru. |
| theatr genedlaethol cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Thursday, April 22, 2010 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd drama gafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol 45 o flynyddoedd yn ôl yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf erioed fis nesaf.