|
Prosiect Deori - Prosiect datblygu creadigol Galw am geisiadau |
Eleni, mae Canolfan Mileniwm Cymru’n cychwyn ar 5ed blwyddyn Deori, lle caiff unigolion neu gwmnïau artistig gyfle i dreulio amser yn datblygu darn newydd o waith.Bydd pob cais llwyddiannus yn cael datblygu’r gwaith yn ardaloedd ymarfer y Ganolfan, gan fynd ymlaen i’w berfformio o flaen cynulleidfa gyhoeddus a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes y celfyddydau,ynghyd â chael cyngor a chefnogaeth rheoli’r celfyddydau gan y tîm. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan gwmnïau ac unigolion sy’n gweithio yn Gymraeg neu Saesneg, ym maes theatr, dawns, syrcas, gwaith safle-benodol a chelfyddydau digidol ac ar-lein. Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm 1 Hydref 2010 Anfonwch eich cais i’r prosiect Deori at: Simon Coates Cynhyrchydd Cysylltiol Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, CF10 5AL Neu dros e-bost i simon.coates@wmc.org.uk Caiff artistiaid a chwmnïau eu dewis erbyn dydd Gwener 8 Hydref 2010 Cysylltwch â Simon Coates os hoffech chi unrhyw fanylion eraill. |
| Wales Millennium Centre web site: wmc.org.uk/deori |
| e-mail: simon.coates@wmc.org.uk |
| Saturday, September 4, 2010 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Eleni, mae Canolfan Mileniwm Cymru’n cychwyn ar 5ed blwyddyn Deori, lle caiff unigolion neu gwmnïau artistig gyfle i dreulio amser yn datblygu darn newydd o waith.