|
DATHLU CERDDORIAETH A DAWNS GORAU AMERICA YN Y GANOLFAN YR HYDREF HWN |
Mae Otis Redding a Nina Simone ymhlith yr artistiaid sy'n rhan o drac sain cwmni dawns Americanaidd a fydd yn ymweld â Chymru ar 12-13 Hydref eleni am y tro cyntaf ers ei sefydlu 52 o flynyddoedd yn ôl. Sefydlwyd yr 'Alvin Ailey American Dance Theater' yn 1958 gan Alvin Ailey o Texas. Mae'r cwmni, a sefydlwyd yn Efrog Newydd ar sail cred angerddol Ailey fod dawns yn rhywbeth i bawb, yn dathlu'r diwylliant Affricanaidd-Americanaidd. Mae ymweliad 'Alvin Ailey American Dance Theater' â Chanolfan Mileniwm Cymru yn rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon y Ganolfan. Mae'r cwmni'n cyfuno cerddoriaeth a symudiadau Affricanaidd-Americanaidd traddodiadol a chyfoes. Byddant yn perfformio pedwar darn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, sy'n cynnwys y gorau o gerddoriaeth 'soul', cerddoriaeth blŵs a cherddoriaeth gospel America: • ‘Suite Otis’: Dyma deyrnged i Otis Redding sy'n cael ei pherfformio i rai o ganeuon mwyaf emosiynol y gŵr enwog, gan gynnwys 'Try a Little Tenderness' ac 'I've Been Loving You Too Long'. Mae 'Suite Otis' yn edrych ar y frwydr hynafol rhwng y rhywiau mewn ffordd chwareus, digrif a rhamantus. Mae'r coreograffi gan George Faison, sydd wedi ennill gwobr Tony, ac a oedd yn ddeintydd cyn ymuno ag Alvin Ailey American Dance Theater ar ôl cael ei ysbrydoli yn gwylio un o'i berfformiadau. • ‘In/Side’: Fersiwn atgofus Nina Simone o 'Wild is the Wind' yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i 'In/Side' a goreograffwyd gan Robert Battle, Darpar Gyfarwyddwr Artistig y cwmni. Mae'r darn solo hwn, sy'n cyfleu trafferthion mwyaf personol dyn, yn gignoeth, yn ddewr ac yn gorfforol, ac mae'r un mor ddiymatal â llais unigryw Simone. • ‘Dancing Spirit’: Gellir clywed cerddoriaeth jazz gan Duke Ellington a Wynton Marsalis ochr yn ochr â cherddoriaeth roc gan y band Prydeinig Radiohead yn 'Dancing Spirit', teyrnged i Judith Jamison, Cyfarwyddwr Artistig presennol y cwmni, a theitl ei hunangofiant. Mae'r darn yn cynnwys symudiadau o Cuba, Brasil ac America, sy'n dwyn dawnsfeydd Jamison i gof. • ‘Revelations’: Dyma ddarn enwocaf y cwmni ac mae mwy o bobl ledled y byd wedi gweld y ddawns hon nag unrhyw ddawns gyfoes arall. Gan ddefnyddio cerddoriaeth gospel a cherddoriaeth blŵs Affricanaidd-Americanaidd, coreograffwyd 'Revelations' gan Alvin Ailey ei hun, hanner canrif yn ôl. Mae'r darn yn treiddio i'r galar dyfnaf a'r gorfoledd mwyaf angerddol y mae dynolryw yn eu profi, ac mae emosiwn y darn yn codi cynulleidfaoedd i'w traed dro ar ôl tro. Mae gan 'Alvin Ailey American Dance Theater' apêl a statws eang ac enw da rhyngwladol fel llysgenhadon ar ran y diwylliant Americanaidd. Mae wedi perfformio i dros 21 miliwn o bobl mewn 48 o daleithiau a 71 o wledydd ar chwe chyfandir. I ddathlu pen-blwydd y cwmni yn 50 oed yn 2008, cyhoeddwyd y byddai'r seren deledu Americanaidd Oprah Winfrey yn Gadeirydd Anrhydeddus arno. Yn ddiweddar, lansiwyd dol Alvin Ailey, yn seiliedig ar Judith Jamison, gan Mantel, y cwmni sy'n cynhyrchu doliau Barbie. Dyma'r ddol gyntaf i'w hysbrydoli gan gwmni dawns. Dywedodd Fiona Allan, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: ''Alvin Ailey American Dance Theater' 'yw un o'm hoff gwmnïau ar wyneb y ddaear. Teithiais i weld y cwmni yn Efrog Newydd fis Rhagfyr diwethaf yn arbennig i ddewis rhaglen ar gyfer y Ganolfan - ac rwy'n ffyddiog mai hon fydd un o'r sioeau gorau i ni erioed ei chynnal yng Nghymru. Ni allaf bwysleisio hynny ddigon. 'Mae'r cwmni yn eich cludo o draddodiadau gospel a llwythol Deheudir UDA i oleuadau llachar ffilmiau cerdd MSM - gyda pherfformiadau dawnsio cyfoes o'r radd flaenaf at hynny. Mae'r emosiwn sy'n deillio o'r perfformiad ac effaith y gerddoriaeth yn ysgogi cymeradwyaeth ddigymell gan y gynulleidfa - bob tro i mi weld y cwmni'n perfformio mae aelodau'r gynulleidfa wedi codi i'w traed yn syth ar ddiwedd y perfformiad. Mae'n brofiad cerddorol a dawns go iawn, ac fe'ch anogaf i fynd i brofi'r wefr.' |
| wales millennium centre web site: www.wmc.org.uk/alvinailey |
| e-mail: |
| Thursday, September 23, 2010 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Otis Redding a Nina Simone ymhlith yr artistiaid sy'n rhan o drac sain cwmni dawns Americanaidd a fydd yn ymweld â Chymru ar 12-13 Hydref eleni am y tro cyntaf ers ei sefydlu 52 o flynyddoedd yn ôl.