|
Sherman Cymru Yn Lansio Cyhoeddi Dwy Ddrama Nadoligaidd i Blant |
Mae Sherman Cymru yn gynhyrchwyr profiadol ym maes theatr i blant, fel oedd Cwmni Theatr y Sherman o’i flaen. Ond am y tro cyntaf erioed, mae’r cwmni wedi cyhoeddi dwy ddrama hwyliog yn barod ar gyfer yr _yl. Cinders a Plum (and me, Will!), y naill ar ôl y llall, oedd cynhyrchiadau Nadolig Sherman Cymru ar gyfer ein cynulleidfa ieuengaf yn 2008 a 2009. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ddwy ddrama gan Louise Osborn ac fe’u cyflwynir yn awr gyda’i gilydd mewn un cyfrol. Lluniwyd y ddwy ddrama yn arbennig ar gyfer cynulleidfa dan saith oed a gall oedolion neu blant eu perfformio.Mae Cinders yn ailedrych, yn ddychmygus a hyfryd, ar hen stori.Mae’n rhaid i’r tylwyth teg direidus, y Crimbils, achub Cinders a sicrhau ei bod yn cyrraedd Y Ddawns a chyfarfod Tywysog Fraximus mewn pryd neu mae perygl y bydd un o’r Chwiorydd Hyll yn dod yn Frenhines y wlad i gyd gan droi popeth ben i waered, neu i ddyfynnu’r Crimbils “topsy turvy, upsy downsy, horriple, horriple!!” Yn Plum (and me, Will!) mae Will mewn helbwl mawr! Byth ers dyfodiad ei chwaer fach newydd drewllyd, mae o’n dragwyddol yn colli ei dymer, ac yn ei wylltineb mae o wedi torri Plum, tylwythen deg arbennig ei fam ar gyfer y goeden nadolig . Ond yna mae Plum, y dylwythen, yn dod yn fyw, yn gyfangwbl hudol. Mae’n rhaid iddi hi a Will fynd ar antur swynol, lle mae gofyn iddynt wynebu, a gorchfygu sawl her amhosibl, gan ddysgu llawer iawn am ei hunain, a sut i fod yn ffrind da. Dywed Arwel Gruffydd, Cyfarwyddydd Cyswllt Sherman Cymru: “Mae cyhoeddi dramau i blant yn y DU yn ddigwyddiad anghyffredin, ac mae Sherman Cymru yn hynod falch i ddatblygu ein hymlyniad i’r oedran yma gan gyhoeddi’r ddwy ddrama swynol yma a gyfer y Nadolig. Rydan ni’n gobeithio y byddant nid yn unig yn gronicl o’n cyflawniad gyda plant yr oedran yma ond hefyd yn adnodd i athrawon, tiwtoriaid ayyb sydd yn ceisio ysbrydoli a diddanu cynulleidfaoedd ifainc iawn mewn ysgolion ac yn y gymuned. Hefyd, mae nhw’n llawer o hwyl i’w darllen.” Mae’r dramau ar werth ar Amazon ac mae’n nhw hefyd ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod y rhediad yno o gyd-gynhyrchiad Sherman Cymru a Theatr Iolo o Sioe Nadolig eleni, sef Snow Child/Plentyn yr Eira Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad cyffrous yma, ewch i wefan Sherman Cymru – www.shermancymru.co.uk Bydd Plentyn yr Eira/Snow Child yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 14 Rhagfyr-1 Ionawr. Am amseroedd, ewch i www.wmc.org.uk Pris tocynnau yw £6 a gellir archebu trwy ffonio 029 2063 6464 neu archebu ar y we – www.wmc.org.uk |
| Sherman Cymru web site: www.shermancymru.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, December 14, 2010 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Sherman Cymru yn gynhyrchwyr profiadol ym maes theatr i blant, fel oedd Cwmni Theatr y Sherman o’i flaen. Ond am y tro cyntaf erioed, mae’r cwmni wedi cyhoeddi dwy ddrama hwyliog yn barod ar gyfer yr _yl. Cinders a Plum (and me, Will!), y naill ar ôl y llall, oedd cynhyrchiadau Nadolig Sherman Cymru ar gyfer ein cynulleidfa ieuengaf yn 2008 a 2009. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ddwy ddrama gan Louise Osborn ac fe’u cyflwynir yn awr gyda’i gilydd mewn un cyfrol. Lluniwyd y ddwy ddrama yn arbennig ar gyfer cynulleidfa dan saith oed a gall oedolion neu blant eu perfformio.