Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr Genedlaethol Cymru Yn Chwilio Am Gyfarwyddwr Artistig     

Theatr Genedlaethol Cymru Yn Chwilio Am Gyfarwyddwr Artistig Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cychwyn ar y gwaith o ganfod Cyfarwyddwr Artistig newydd i’r Cwmni.

Fe fydd hysbysebion yn ymddangos yn y wasg yr wythnos hon yn cyhoeddi fod y Cwmni, sydd a’i swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, yn edrych am Gyfarwyddwr Artistig newydd i greu gweledigaeth a chyfeiriad newydd i Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer y dyfodol.

Bydd y swydd yn un llawn amser ac yn benodiad am gyfnod o 5 mlynedd.

Fe ymadawodd Cefin Roberts y swydd o Gyfarwyddwr Artistig nôl ym mis Mawrth 2010 wedi cyfnod o 7 mlynedd wrth y llyw. Ers hynny mae’r Theatr Genedlaethol wedi bod yn cynnal arolwg i adolygu gweithgaredd y Cwmni er mwyn cynllunio yn fanwl ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Meddai’r Athro Ioan Williams, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli: “Gyda dechrau blwyddyn newydd, rydym ninnau yn troi dalen newydd yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru drwy edrych am Gyfarwyddwr Artistig newydd i’n harwain.

“Gobeithiwn yn fawr fod y swydd yn un apelgar ac y bydd yn denu cyfarwyddwyr ac ymarferwyr amryddawn i ymgeisio amdani.”

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd Dydd Llun 7fed Chwefror 2011.

Ceir pecyn gwybodaeth trwy ffonio 01267 233882 neu drwy e-bostio thgc@theatr.com.
theatr genedlaethol cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail: thgc@theatr.com
Wednesday, January 12, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk