Mae Cymdeithas Ddrama Cymru a Neuadd Sifil Conwy yn falch o gyflwyno Gŵyl Ddrama Un Act Bae Colwyn eto eleni. Caiff yr Ŵyl ei chynnal yn Neuadd Sifil Conwy o’r 22ain i’r 19eg o Fawrth 2011. Cost ticedi yw £8.00 a bydd yr Ŵyl yn cychwyn am 7.00yh pob nos. Y beirniad ar gyfer 2011 fydd Mr Ben Humphrey. Byddwn yn trefnu cynghorydd Iaith Gymraeg i gynghori’r beirniad wrth feirniadu cynyrchiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.Mae Gŵyl Ddrama Bae Colwyn yn ffurfio rhan o rwydwaith Gwyliau'r Theatr Gymunedol Brydeinig ac yma y bydd cwmnïau lleol yn cystadlu am le yng Ngŵyl Derfynol Cymru o Ddramâu Un Act sy’n cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru eleni. Mae Gŵyl Ddrama Bae Colwyn yn croesawu perfformiadau gan gwmnïau o bob oedran, cefndir a phrofiad. Rydym hefyd yn annog perfformiadau gan gwmnïau sydd eisiau cymryd rhan yn yr ŵyl, ond ddim eisiau bod yn rhan o’r ‘cystadleuaeth’ na chael eu ‘beirniadu.’ Dylai perfformiadau bod rhwng 20 a 50 o funudau o hyd, a gallent gynnwys ddrama un act, detholiad o ddrama hirach neu ddarn o’ch gwaith chi. (Os hoffech unrhyw help yn dewis dramâu, cysylltwch â fi - mae CDdC yn dal y llyfrgell benthyca drama fwyaf yn Ewrop ac rydym bob tro yn barod hefo cyngor neu arweiniad). Ni fyddwn yn codi tâl ar gwmnïau am gymryd rhan yn yr ŵyl, ond gofynnir i chi dalu £25 o flaen llaw ac wedi i chi berfformio mi gewch chi’ch £25 yn nol. Os hoffech gystadlu neu dderbyn unrhyw wybodaeth bellach am Ŵyl Ddrama Un Act Conwy cysylltwch cyn 31 o Fis Ionawr, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â fi ar y manylion isod. Eleni mae gennym gategori ar gyfer ieuenctid (16-25) sydd hefyd yn cael mynd ymlaen i’r Prawf Terfynol Cymru o Ddramâu Un Act a Gŵyl Derfynol Prydain o Ddramâu Un Act. Edrychaf ymlaen at glywed gennych. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Datblygu Gogledd Cymru , Venue Cymru, Y Promenâd ,Llandudno Conwy, LL30 1BB ,Ffon: 01492873615 / 07766005157. E-bost: ceri@dramawales.org.uk |
| web site: www.dramawales.org.uk |
| e-mail: ceri@dramawales.org.uk |
| Wednesday, January 12, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Cymdeithas Ddrama Cymru a Neuadd Sifil Conwy yn falch o gyflwyno Gŵyl Ddrama Un Act Bae Colwyn eto eleni. Caiff yr Ŵyl ei chynnal yn Neuadd Sifil Conwy o’r 22ain i’r 19eg o Fawrth 2011. Cost ticedi yw £8.00 a bydd yr Ŵyl yn cychwyn am 7.00yh pob nos. Y beirniad ar gyfer 2011 fydd Mr Ben Humphrey. Byddwn yn trefnu cynghorydd Iaith Gymraeg i gynghori’r beirniad wrth feirniadu cynyrchiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.