Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Lleuad yn Olau dros Gymru     

Lleuad yn Olau dros Gymru Cwmni Theatr Bara Caws yn cyflwyno addasiad newydd sbon o ‘Un Nos Ola Leuad’.

Ar 8fed o Fawrth, ym Methesda, bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru yn cyflwyno addasiad newydd sbon o un o nofelau pwysicaf yr iaith Gymraeg, ‘Un Nos Ola Leuad’, gan Caradog Prichard.

Mae deng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i John Ogwen a Maureen Rhys gyflwyno’u haddasiad gwreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, a chan ddefnyddio’r gwaith hwn fel man cychwyn, mae Betsan Llwyd, sydd hefyd yn cyfarwyddo, wedi mynd ati i lunio addasiad newydd sbon.

“Braint, her a chyfrifoldeb enfawr, oedd ymgymryd â’r gwaith o safbwynt yr addasu ac o safbwynt y cyfarwyddo”, medd Betsan. “Mae’r nofel wedi chwarae rhan ryfedd o bwysig yn fy mywyd proffesiynol i, gan i mi chwarae rhan y Fam yn y ffilm, ac mewn fersiwn lwyfan Saesneg gan Theatr Clwyd. A diddorol oedd mynd yn ôl unwaith eto at y gwaith gan wisgo het gwbl wahanol. Oherwydd gofynion amlwg cyflwyno sioe lwyfan mae wedi bod yn amhosib cynnwys pob golygfa o’r llyfr, ond gobeithio mod i - gan ddefnyddio sgript John a Maureen fel craidd i’r cyfan - wedi llwyddo i gyfleu rywfaint o’r dwyster, y doniolwch, yr ysgytwol a’r rhyfeddol sy’n rhedeg fel llinyn arian drwy nofel Caradog Prichard.”

Bydd hwn yn gyflwyniad theatrig cyffrous a chofiadwy o stori gynhyrfus a theimladwy. Gobeithio bydd yn sbarduno rhai i ail-ddarllen y llyfr, ac yn sbarduno eraill i’w ddarllen am y tro cyntaf.

Dywedodd Linda Brown ar ran y cwmni fod gwerthiant tocynnau ar hyn o bryd yn uchel iawn ar gyfer y canolfannau perfformio ac mae’n argymell y dylai pawb archebu neu brynu eu tocynnau o flaen llaw i arbed unrhyw siom.

Am fwy o fanylion ffoniwch Linda neu Mari ar 01286 676335 neu ewch i wefan Bara Caws: www.theatrbaracaws.com
Bara Caws  
web site
: www.theatrbaracaws.com

e-mail:
Friday, February 18, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk