Stori ddadleuol sy’n trafod tensiynau rhywiol ymysg pobl ifanc ac agwedd cymdeithas tuag at y pwnc yw sail drama gerdd fydd yn teithio Cymru am y tro cyntaf fis nesaf.Wedi’i lleoli’n Yr Almaen yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae ‘Deffro’r Gwanwyn’ yn ymwneud â pherthynas rhwng bechgyn a merched yn eu harddegau wrth iddynt geisio rhesymu eu hemosiynau yn wyneb oedolion cul eu hagweddau a chyfyngiadau’r oes. “Gwaharddwyd drama wreddiol Frank Widekind am ychydig oherwydd ei chynnwys beiddgar,” meddai swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams. “Wedi’i selio ar y ddrama derbyniodd y ddrama gerdd, a ysgrifennwyd gan Steven Slater a’r gerddoriaeth gan Duncan Sheik, lu o wobreuon ers ei llwyfannu gyntaf yn Broadway Efrog Newydd yn 2006 ac fe’i chyfieithwyd i’r Gymraeg gan Dafydd James.” Elen Bowman sy’n Cyfarwyddo ‘Deffro’r Gwanwyn’ ac mae’r cast o dri ar ddeg yn cynnwys actorion profiadol fel Ffion Dafis a Dyfed Thomas sy’n chwarae rhan yr oedolion llym ac didostur. Cymerir rhan y bobl ifanc ar eu trugaredd gan Zoë George, Owain Gwynn, Iddon Jones, Daniel Lloyd, Elain Lloyd, Ellen Ceri Lloyd, Elin Llwyd, Berwyn Pierce, Aled Pedrick, Lynwen Haf Roberts a Meilir Rhys Williams. Y Cyfarwyddwr Cerdd yw Dyfan Jones. “Cynhyrchiad ar gyfer cynunlleifaoedd ifanc yn bennaf yw hwn ond mae ynddo agweddau sy’n taro tant gyda phobl o bob oed,” ychwanegodd Elis Williams. “Gyda band roc byw yn cyfeilio bydd yn brofiad theatrig bythgofiadwy.” Bydd ‘Deffro’r Gwanwyn’ yn cychwyn ar daith pum wythnos ar nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, 9-11 Mawrth yn Y Llwyfan, Caerfyrddin (0845 2263510) cyn mynd ymlaen i: · Stiwdio Weston yng Nhganolfan y Mileniwm Caerdydd (02920 636464) ar nos Fawrth a phrynhawn a nos Fercher, 15-16 Mawrth, 2011; · Canolfan Hamdden Pontardawe (01792 863722) ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 22-23 Mawrth, 2011; · Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans Aberaeron (01239 621200) ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 25-26 Mawrth, 2011; · Canolfan Hamdden Glan Wnion Dolgellau (01341 421800) ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 29 Mawrth-1 Ebrill, 2011; · Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy Llanrwst ar noswithiau Mawrth a Mercher, 6-7 Ebrill, 2011; · Canolfan Hamdden Plas Madog yn Acrefair ger Wrecsam (01978 293293) ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 8-9 Ebrill, 2011; · Canolfan Hamdden Biwmares (01248 382828) ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 12-15 April, 2011. Mae pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch ag eithrio perfformiadau yn Stiwdio Weston yng Nghaerdydd sy’n dechrau am 8.00 o’r gloch gyda sioe’r prynhawn am 1.30 o’r gloch. Cefnogi Theatr Genedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Friday, February 18, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Stori ddadleuol sy’n trafod tensiynau rhywiol ymysg pobl ifanc ac agwedd cymdeithas tuag at y pwnc yw sail drama gerdd fydd yn teithio Cymru am y tro cyntaf fis nesaf.