Arwel Gruffydd yw Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru, cyhoeddodd Yr Athro Ioan Williams, Cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Gŵyl Dewi heddiw.Fe fydd Arwel yn cychwyn yn llawn amser yn ei swydd newydd ar y 3ydd o Fai 2011. Ar hyn o bryd, mae Arwel yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru lle mae’n gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni, yn cynnwys cynlluniau comisiynu a datblygu gwaith newydd a phrosiectau datblygu awduron newydd. Yn wreiddiol o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, mae Arwel wedi gweithio yn eang fel actor ffilm, teledu a theatr a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn canolbwyntio ar ei waith fel cyfarwyddwr. Mae ei waith cyfarwyddo yn cynnwys ‘Llwyth’, ‘Ceisio’i Bywyd Hi’, ‘Yr Argae’, ‘Maes Terfyn’ (Sherman Cymru), ‘Gwe o Gelwydd’ (Cwmni Inc), ‘Mae Sera’n Wag’ a ‘Hedfan Drwy’r Machlud’ (Sgript Cymru) i enwi dim ond rhai. Meddai Arwel: “Mae llywio’r Theatr Genedlaethol wrth iddi ailddiffinio’i hun ac ailystyried ei pherthynas ag aml gymunedau Cymru, yn her ac yn fraint aruthrol. “Wrth i’r cwmni ddod allan o gyfnod o edrych i mewn arno’i hun, mae hi naill ai’n ddamwain ffortunus neu’n gynllun go giwt, fod fy mhenodiad yn digwydd pan mae cynhyrchiad nesaf y cwmni (sydd ar fin cychwyn ar daith drwy Gymru), yw Deffro’r Gwanwyn! Gobeithio fod hyn yn argoel dda. “Heb os, mae’n gyfnod cynhyrfus i gychwyn gyda’r Theatr Genedlaethol, a dwi’n edrych ymlaen yn arw i fynd ati dros y misoedd nesaf i greu rhaglen o waith bywiog ac amrywiol ar gyfer 2012 ac i blannu hadau o bob math ar gyfer y blynyddoedd i ddod.” Meddai Ioan Williams, Cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Arwel yn mynd i arwain Theatr Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n gyfnod cyffrous iawn ym myd y theatr Gymraeg ac mae cael rhywun sydd â phrofiad Arwel wrth y llyw yn mynd i’n helpu i lunio rhaglen artistig heriol ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld ffrwyth ei lafur ar lwyfannau Cymru yn fuan.” |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Tuesday, March 1, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Arwel Gruffydd yw Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru, cyhoeddodd Yr Athro Ioan Williams, Cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Gŵyl Dewi heddiw.