Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sherman Cymru’n cyflwyno’r drydedd _yl ysgrifennu a lleisiau newydd     

Sherman Cymru’n cyflwyno’r drydedd _yl ysgrifennu a lleisiau newydd Mis Ebrill eleni bydd Sherman Cymru yn cyflwyno Egin:Springboard am y drydedd waith - g_yl ddwyieithog sy’n dathlu ymrwymiad y cwmni tuag at ddarganfod, datblygu a meithrin ysgrifennu a lleisiau newydd o Gymru benbaladr.

Mae’r rhaglen pum niwrnod yn cynnwys amrywiaeth o waith gan lu o awduron ac artistiaid newydd a phrofiadol. Un o’r uchafbwyntiau yw Light Arrested Between the Curtain and the Glass, drama am euogrwydd, ffydd a defosiwn gan y dramodydd 22 mlwydd oed, Brad Birch. Mae Brad wedi symud yn ei flaen o Gr_p Awduron Sherman Cymru i’r Rhaglen Uwch ar gyfer Awduron, ac mae Light Arrested… yn cynrychioli cynhyrchiad cyntaf AMRWD. Fel yr eglura Amy Hodge, Cyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru, fydd yn cyfarwyddo Light Arrested…:

“With a scheduled three RAW productions this year, we are increasing significantly our output of new plays. We want to get as much great new work as we can out there and in front of an audience in a way that isn’t possible with all the demands of a full-scale production, but still with a professional cast and a Sherman Cymru commitment to quality. Put bluntly, it’s no frills theatre - the writing itself will be the main event with things like set and lighting design really stripped back. Light Arrested… is the perfect piece to be the first RAW production – Brad is a real success story of Sherman Cymru’s writer development programme and it will be a pleasure to direct his first professional production.”

Mae digwyddiadau eraill rhaglen Egin:Springboard yn cynnwys: Actoresau yn...dweud storïau / Actorion yn...dweud storïau, perfformiad yn yr iaith Gymraeg dan law Sera Moore Williams sy’n archwilio’r storïau mae dynion a menywod yn eu hadrodd wrth ei gilydd, a sut maent yn eu hadrodd; nifer o ddarlleniadau sydd wedi’u hymarfer o ddramâu sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd; detholiad o waith a chyflwyniadau gan unigolion a chwmnïau sydd wedi derbyn cefnogaeth gan fenter Datblygu Artistiaid Sherman Cymru; a thrafodaeth ddwyieithog, ryngweithiol mewn partneriaeth â National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru ar greu a chyflwyno gwaith newydd.

Egin:Springboard yw’r prosiect olaf fydd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru, yn ymwneud ag ef cyn iddo gychwyn ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Meddai Arwel:

“I mi mae Egin:Springboard yn crynhoi’r hyn sydd orau am Sherman Cymru - ymrwymiad at ddarganfod y genhedlaeth nesaf o awduron a gwneuthurwyr theatr, meithrin datblygiad gwaith newydd, a rhoi llwyfan i artistiaid brofi ac archwilio’u gwaith. Yng nghyd-destun creu theatr greiddiol fel yma, ac mewn meysydd eraill sydd o ddiddordeb cyffredin, ‘rwy’n edrych ymlaen yn arw at gydweithrediadau rhwng Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn y dyfodol.”

Cyflwynir Egin:Springboard yn Chapter 17 - 21 Ebrill. Mae’r amserlen gyflawn a gwybodaeth am docynnau ar gael yn Swyddfa Docynnau Chapter ar 029 2030 4400 neu ar-lein ar www.chapter.org
Sherman Cymru  
web site
: www.chapter.org

e-mail:
Saturday, March 26, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk