|
Yn Cyhoeddi Clyweliadau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2011 |
Bydd DGIC yn mynd ar daith yn mis Mai wrth geisio dewis hyd at 15 dawnsiwr ifanc rhwng 16 – 21 mlwydd oed i ‘ddawnsio dros Gymru’.Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â DGIC 2011 am gwrs preswyl haf dwys ym mis Gorffennaf 2011 ac yn cydweithio â Chyfarwyddwr Artistig DGIC, Errol White, ar greu a pherfformio darn newydd sbon o goreograffi. Cynhelir clyweliadau rhanbarthol DGIC 2011 yn Aberystwyth, Caerdydd, Conwy, Llandrindod ac Abertawe. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod yn ymwneud â dawns ar lefel uchel neu ganolradd, ac mae’n rhaid iddynt fod rhwng 16 – 21 mlwydd oed ar 31 Awst 2011. Rhaid i’r dawnswyr fydd yn cael eu dewis fod ar gael am gwrs cyn yr haf (25 – 26 Mehefin) ac am y cyfnod preswyl llawn o bythefnos (18 – 30 Gorffennaf). Gan ein bod wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gall DGIC gynnig rhaglen well ac ehangach o 2011 – gan ddarparu mwy o gyfleoedd hyfforddi, perfformio a theithio o’r radd flaenaf i rai o ddawnswyr ifanc mwyaf talentog Cymru Mae ffurflenni cais ar gael i’w llwytho i lawr ar www.nyaw.co.uk, neu drwy ffonio 029 2026 5060; dyddiad cau: 3 Mai 2011. Hyfforddwyd Errol, sy’n berfformiwr gwobrwyol, yn y Northern Contemporary Dance School ac mae wedi perfformio gyda rhai o gwmnïau dawns cyfoes mwyaf adnabyddus y DU gan gynnwys Diversions - Cwmni Dawns Cymru (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru bellach), Phoenix Dance Company, Scottish Dance Company a’r X Factor. Mae hefyd wedi perfformio’n rhyngwladol am sawl blwyddyn, gan weithio ochr yn ochr â nifer o gyfarwyddwyr a choreograffwyr enwog. Bellach yn Gyfarwyddwr Artistig ar ei gwmni ei hun (errol white dance company), mae Errol yn ennill enw da fel dawnsiwr/coreograffydd cyffrous; mae galw mawr amdano fel darlithydd gwadd mewn colegau dawns trwy’r DU, ac mae hefyd yn arwain cyrsiau preswyl a dosbarthiadau ar gyfer cwmnïau dawns proffesiynol. |
| Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru web site: www.nyaw.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, April 12, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd DGIC yn mynd ar daith yn mis Mai wrth geisio dewis hyd at 15 dawnsiwr ifanc rhwng 16 – 21 mlwydd oed i ‘ddawnsio dros Gymru’.