Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Adfywio Llwyth Yn Barod I Wyl Ymylol Caeredin ac Ail Daith Yng Nghymru     

 Adfywio Llwyth Yn Barod I Wyl Ymylol Caeredin ac Ail Daith Yng Nghymru Bydd y cyd-gynhyrchiad cyntaf rhwng Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn gweld drama Cymraeg ei hiaith yn rhan o arddangosiad arbennig am y tro cyntaf erioed yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni.

Mae’r ddau gwmni theatr blaenllaw wedi uno i lwyfannu cynhyrchiad newydd o’r ddrama ‘Llwyth (Tribe)’ gan yr awdur amryddawn Dafydd James.

Adrodda ‘Llwyth’ hanes un nos Sadwrn gêm ryngwladol yng Nghaerdydd ac mae’r brifddinas yn wyllt. Mae Cymru wedi colli ond mae pedwar ffrind hoyw’n benderfynol o gael noson i’w chofio… beth bynnag fo’r gost.

Wedi ei gynhyrchu yn wreiddiol yn Ebrill 2010 gan Sherman Cymru, bu clod mawr i ‘Llwyth’ gyda’r gynulleidfa yn tyrru i’r theatrau trwy Gymru yn ogystal â Llundain.

Ond nawr, dewiswyd ‘Llwyth’ gan y Cyngor Prydeinig i fod yn rhan o’i Arddangosiad Rhyngwladol arbennig (International Showcase) yn ystod Gŵyl Ymylol Caeredin rhwng 20-28 Awst 2011. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw ddrama Gymraeg ei hiaith gael ei dewis.

Wedi hyn, fe fydd ‘Llwyth’ yn teithio theatrau yng Nghymru.

Mae ‘Llwyth’ yn cael ei gyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’r actorion yn cynnwys Simon Watts, Danny Grehan, Paul Morgans & Michael Humphreys.

Meddai Arwel Gruffydd: “Mae’r ffaith fod ‘Llwyth’ wedi ei ddewis gan y Cyngor Prydeinig yn gyfle arbennig i Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru. Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn caniatáu i ddelwedd unigryw o Gymru gael ei ddangos ar lwyfan i gynulleidfa ryngwladol Caeredin yn ogystal â rhoi cyfle arall i gynulleidfaoedd Cymru i’w gweld.”

Bydd ‘Llwyth’ i’w gweld yn Eglwys St George’s West fel rhan o Ŵyl Ymylol Caeredin o 20-28 Awst 2011 am 11:45am bob diwrnod – mae pob un o’r perfformiadau yn cynnig uwchdeitlau Saesneg.

Yn dilyn yr Ŵyl fe fydd y daith yng Nghymru yn cynnwys Theatr Richard Burton, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd (13-16 Medi); Galeri Caernarfon (21-22 Medi ); Theatr Mwldan, Aberteifi (23 Medi); Y Llwyfan, Caerfyrddin (26-27 Medi); Theatr John Ambrose, Rhuthun (29 Medi) a Canolfan Gymunedol Gartholwg, Pontypridd (01 Hydref). Fe fydd uwchdeitlau Saesneg ar gael ymhob lleoliad.

I gael mwy o wybodaeth am daith ‘Llwyth’ ewch i www.shermancymru.co.uk neu www.theatr.com.
Sherman Cymru & Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, May 23, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk