Llwyfan i artistiaid a chwmnïau arbrofi a chael adborth ar syniadau cychwynnol ar gyfer perfformiad. Y nod yw cyfl wyno a rhannu darn newydd o waith yn ystod sesiwn breswyl bum niwrnod a chael adborth i helpu’r artistiaid i ddatblygu yn y dyfodol.“Rhoddodd Deori yr amser, y cyfl eusterau a’r cyfl e i mi ddatblygu rhywbeth na fyddwn wedi’i wneud fel arall, fwy na thebyg. Byddwn yn ei awgrymu i unrhyw un sydd â syniad y maen nhw am geisio’i wireddu. Roedd yn ddefnyddiol tu hwnt i mi.” Ben Partridge – Inc’ling 2010 Mae Inc’ling yn cynnig llwyfan i chi arbrofi , ehangu rhwydweithiau a chael adborth Pwy all wneud cais? •Caiff artistiaid neu gwmnïau sydd o Gymru, neu sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, ac sydd am roi cynnig ar syniadau a datblygu eu hymarfer, wneud cais i Inc’ling •Croesewir ceisiadau ar gyfer gwaith theatr, dawns, syrcas, gwaith safl e penodol, ffurfi au celfyddydol digidol neu ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg •Bydd Inc’ling 2011 yn rhedeg rhwng dydd Sul 7 a dydd Iau 11 Awst (rhaid bod pob ymgeisydd ar gael yn ystod y dyddiadau yma) Rydyn ni’n cynnig •Lle i ymarfer dros 5 diwrnod (a chael defnydd o Stiwdio Weston neu le arall ar gyfer cyfl wyno gwaith/canlyniadau’r grŵp ar y 5ed niwrnod) •Adborth drwy ffurfl enni adborth, fforymau pum munud a chyfarfodydd wyneb yn wyneb ar ddiwedd y noson •Cymorth technegol a blaen y tŷ •Cymorth, cyngor ac arbenigedd anffurfi ol gan aelodau o staff y Ganolfan Gwneud Cais: Cysylltwch â Simon Coates, Cynhyrchydd Cysylltiol i gael ffurfl en gais (manylion isod). Dychwelwch eich ffurfl en gais wedi’i llenwi erbyn: Llun 4 Gorffennaf Caiff artistiaid a chwmnïau eu dewis erbyn: Gwe 8 Gorffennaf Cysylltwch â: Simon Coates, Cynhyrchydd Cysylltiol Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, CF10 5AL 029 2063 4637 simon.coates@wmc.org.uk |
| web site: www.wmc.org.uk |
| Simon Coates, Associate Producer e-mail: simon.coates@wmc.org.uk |
| Thursday, June 2, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Llwyfan i artistiaid a chwmnïau arbrofi a chael adborth ar syniadau cychwynnol ar gyfer perfformiad. Y nod yw cyfl wyno a rhannu darn newydd o waith yn ystod sesiwn breswyl bum niwrnod a chael adborth i helpu’r artistiaid i ddatblygu yn y dyfodol.