Mae mochyn pinc 30 troedfedd o hyd wedi'i lenwi ag aer, a phâr o gogls fideo yn ddau o'r pethau hanfodol a fydd yn chwarae eu rhan yng ngŵyl haf flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru eleni. Mae Gŵyl Blysh bellach yn ei thrydedd flwyddyn ac yn cael ei hysbrydoli gan gabaret, comedi a theatr vaudeville. Ei nod yw cyflwyno rhaglen llawn hwyl ac adloniant, gyda'r rhan fwyaf ohoni yn rhad ac am ddim, a hynny yn y Ganolfan ac yn yr ardal o'i hamgylch. Yn dilyn ei llwyddiant blaenorol, cafodd Gŵyl Blysh eleni ei hymestyn o wythnos i bedair wythnos o hyd a chaiff digwyddiadau eu cynnal drwy gydol mis Gorffennaf. THEATR A CHABARET Mae'r 'PIG' yn theatr siâp mochyn enfawr a adeiladwyd yn bwrpasol a fydd wedi'i lleoli y tu allan i'r Ganolfan o dan yr arysgrif enwog, a thu mewn i fol mawr y mochyn y cynhelir y perfformiadau. Bydd cynulleidfaoedd yn gwylio'r cast yn perfformio cyfres o bortreadau byr drwy ffenestri a fydd wedi'u gosod mewn rhes y tu allan i 'PIG'. Gall hyd at ddeg o bobl wylio pob perfformiad sy'n para am ddeng munud. ['PIG' 23 Gorffennaf amseroedd yn amrywio]. Gall cynulleidfaoedd Gŵyl Blysh gael eu hunain yn chwarae rhan y prif gymeriad fel rhan o ddarn newydd rhyngweithiol o theatr, 'And the Birds Fell from the Sky'. Caiff y rheini sy'n cymryd rhan eu gosod ar ganol y llwyfan a byddant yn cael gogls fideo i'w gwisgo a chyfarwyddiadau i'w dilyn drwy bâr o glustffonau. Bydd y fideo'n chwarae o flaen eu llygaid ac wrth i'r stori ddatblygu, bydd ffaith a ffuglen yn cyfuno a chaiff y gynulleidfa ei chludo'n gorfforol ar daith ddychmygol a chwblhau tasgau. Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyfieithu'r cynhyrchiad i'r Gymraeg, sy'n golygu y gall cynulleidfaoedd fwynhau ‘And the Birds Fell from the Sky’ trwy gyfrwng eu dewis iaith. [‘And the Birds Fell from the Sky’ 5-10 Gorffennaf amseroedd yn amrywio]. Caiff Stiwdio Weston y Ganolfan ei thrawsnewid i fyd amheus strydoedd cefn 'The Port of Amsterdam', profiad diddos a ysbrydolwyd gan hanes cyfoethog dociau bae Caerdydd. Mae'r sioe yn cyflwyno llu o gymeriadau bywyd y dociau mewn perfformiad sy'n cyfuno syrcas a chabaret. [‘The Port of Amsterdam’ 22-23 Gorffennaf 7.30pm]. GWEITHIO GYDA SEFYDLIADAU PRESWYL Bydd dau o sefydliadau preswyl y Ganolfan hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Blysh. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyflwyno 'In Chapters' sy'n gymysgedd o gerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm yn seiliedig ar thema carnifal. Bydd cerddorion, nofelwyr a beirdd o Gymru a thu hwnt yn cymryd rhan, gan gynnwys Richard James o Gorky's Zygotic Monkey a John Williams o The Cardiff Trilogy. [‘In Chapters’ 21 Gorffennaf 7.30pm]. Bydd cwmni theatr cynhwysol Hijinx yn cyflwyno 'The Snooks Brothers', gan droi llwyfan Glanfa'r Ganolfan yn fanc tywyll, bach a hen ffasiwn y Brodyr Snook [‘The Snooks Brothers’ 7 Gorffennaf 6.30pm]. Ymysg uchafbwyntiau eraill Gŵyl Blysh mae: •Top Shelf Jazz yn eich diddanu gyda chymysgedd o felodïau swynol, cerddoriaeth swing a digonedd o gellwair [22 Gorffennaf 6.15pm]; •Dysgwch driciau newydd mewn cyfres o weithdai syrcas gydag un o ffefrynnau De Cymru, Syrcas No Fit State. [9-10 Gorffennaf 12pm a 3pm]; •Bydd Dead Cat Bounce yn perfformio popeth o sesiynau jamio hip-hop i anthemau roc yr 1980au. Gallwch ddisgwyl unawdau gitâr uchel, peiriannau mwg a throwsusau print llewpard mewn noson o roc comedi llawn egni ['Too Fast for Love' 29 Gorffennaf 7.30pm]; •Daw'r deuawd direidus Bourgeois a Maurice yn eu hôl â'i sioe newydd feiddgar ‘Can’t Dance’, gwrthgyferbyniad llwyr i'r holl sioeau dawns sydd ar y teledu ar hyn o bryd. Maent yn cyfuno caneuon doniol, ffilm a gwisgoedd anhygoel. Prin iawn yw'r dawnsio. Bydd cynhyrchiad diweddaraf Le Navet Bête yn ymuno â hwy. Mae ‘Napoleon: A Defence’ yn seiliedig ar bedwar clown yn penderfynu bod Napoleon yn ddieuog o bob achos yn ei erbyn ac yn cyfuno eu sgiliau athletaidd a hiwmor. [‘Can’t Dance’ a ‘Napoleon: A Defence’ 30 Gorffennaf o 7.30pm]; a •Bydd criw o 50 o berfformwyr Celf Stryd SWICA yn cyflwyno theatr garnifal awyr agored i'r teulu ar raddfa fawr, wedi'u gwisgo mewn gwisgoedd trawiadol [‘The Last Royal Wizard’ 24 Gorffennaf 3 pm] Dywedodd Gareth Lloyd Roberts, Cynhyrchydd Gŵyl Blysh: 'Gŵyl haf flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru yw Blysh lle mae'r pwyslais ar gyflwyno rhaglen llawn hwyl ac adloniant, ac mae llawer ohoni yn rhad ac am ddim. Gall cynulleidfaoedd yr ŵyl, sy'n para am fis, ddisgwyl cymysgedd o vaudeville, cabaret, comedi a theatr sydd braidd yn herllyd a drygionus ar adegau. Dyma'r ffordd berffaith i fwynhau'r haf. Bydd Gŵyl Blysh yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 5 a 31 o Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464 neu ewch i www.wmc.org.uk/gwylblysh |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: www.wmc.org.uk/gwylblysh |
| e-mail: |
| Monday, June 13, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae mochyn pinc 30 troedfedd o hyd wedi'i lenwi ag aer, a phâr o gogls fideo yn ddau o'r pethau hanfodol a fydd yn chwarae eu rhan yng ngŵyl haf flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru eleni.