|
COEDWIGOEDD GOGLEDD CYMRU YN HUDO DYCHMYGION IFAINC Â PHERFFORMIAD THEATR |
Mae’r cwmni theatr Cymraeg Cwmni’r Frân Wen yn mentro i’r goedwig ym mis Gorffennaf i gyflwyno perfformiad cyhoeddus o’u cynhyrchiad newydd Swyn y Coed – The Enchanted Forest. Bydd Coedwigoedd Abergwyngregyn, Conwy (Sadwrn 2 Gorffennaf), Coedwig Niwbwrch, Niwbwrch (Iau 21 Gorffennaf) a Pharc Glynllifon, Caernarfon (Gwener 22 Gorffennaf) yn cynnal y profiad theatr awyr agored hudol i deuluoedd a phlant dros 7 mlwydd oed. Mae’r sioe yn cael ei chefnogi gan Fenter Addysg Coedwigaeth, yn cydlynu â Blwyddyn Ryngwladol y Goedwig y Cenhedloedd Unedig, ac am fod yn brofiad theatr hudol ac unigryw fydd yn tanio dychymyg pobl ifanc. Dywedodd Kim Burnham o Fenter Addysg Coedwigaeth, “Y bwriad ydi dod a phlant allan o’r ystafell ddosbarth ac awyrgylch deledu er mwyn cymryd mantais o harddwch a chyffro’r awyr agored, gan eu hannog i ddefnyddio’u dychymyg. Mae tynnu plant allan o awyrgylch dan dô yn golygu y gallant brofi byd natur yn agos, ond mae defnyddio theatr i ddod a’r profiadau yma’n fyw yn rhywbeth cwbl newydd a chyffrous.” Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys yr actorion Cymraeg Emyr Gibson, Elen Gwynne, Huw Ll_r a Manon Vaughan Wilkinson. Ychwanegodd Emyr Gibson, sy’n seiliedig ym Mhorthaethwy, ac yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn ‘Rownd a Rownd’ S4C: “Mae’r stori wedi ei seilio ar chwedl Pwyll Pendefig Dyfed o’r Mabinogi ac yn dilyn hanes carwriaeth a phriodas Pwyll a Rhiannon, a genedigaeth a diflaniad eu mab, Pryderi. Mae perfformio theatr yn yr awyr agored yn brofiad gwefreiddiol a ffantastig. Mae bod mor agos i’r gynulleidfa yn ei wneud yn brofiad llawer mwy cartrefol a phersonol, roedd y plant yn edrych yn gwbl syfrdanol ar adegau.” Ychwanega ei gyd-actor Huw Ll_r: “Y tywydd, y coed a’r brigau, awyrennau, adar - mae’r rhain i gyd yn rhan annatod o berfformio mewn coedwig, ac yn golygu fod cadw sylw’r gynulleidfa yn rhan fawr o’r sialens. Mae hyd yn oed yn fwy o sialens gan ei fod yn berfformiad symudol a bod rhaid i ni chwarae’r drymiau. Cyn y perfformiad cyntaf roeddwn i’n arbennig o nerfus, mae hi gymaint haws perfformio ar lwyfan gan eich bod yn ymwybodol o’ch awyrgylch a sut fydd y sain yn teithio.” Dywedodd Iola Ynyr, cyfarwyddwr artistig y cynhyrchiad: “Mae Swyn y Coed yn gweddu’n berffaith â nod Cwmni’r Frân Wen o greu cynyrchiadau mentrus ac arbrofol sy’n gwthio ffiniau theatr i blant yng Nghymru, rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at ymweld â’r holl safleoedd.” Cynlluniodd dîm artistig Cwmni’r Frân Wen y profiad theatr ag ysbrydoliaeth gan blant Gwynedd, Môn a Chonwy. Mae’r perfformiad yn addas i deuluoedd a phlant dros 7 mlwydd oed, rhaid i blant fynd gydag oedolyn. Manylion perfformiadau cyhoeddus: Coedwigoedd Abergwyngregyn, Conwy (Perfformiadau Saesneg) Dydd Sadwrn, 2il o Orffennaf 2011 10.30yb / 2.00yh Coedwig Niwbwrch, Niwbwrch (Perfformiadau Cymraeg) Dydd Iau, 21ain o Orffennaf 2011 10.30yb / 2.00yh Parc Glynllifon, Caernarfon (Perfformiadau Cymraeg) Dydd Gwener, 22ain o Orffennaf 2011 10.30yb / 2.00yh Mae modd prynu tocynnau ar y we: www.franwen.com neu drwy ffonio: 01248 715048. Mae prisiau tocynnau fel a ganlyn: £7 i oedolion / £5 i blant, pensiynwyr a myfyrwyr / £20 - tocyn teulu (2 oedolyn, 2 blentyn) |
| Fran Wen web site: www.franwen.com |
| e-mail: |
| Tuesday, June 21, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae’r cwmni theatr Cymraeg Cwmni’r Frân Wen yn mentro i’r goedwig ym mis Gorffennaf i gyflwyno perfformiad cyhoeddus o’u cynhyrchiad newydd Swyn y Coed – The Enchanted Forest.