Mi fydd 5,000 o bobl ifanc a chynulleidfaoedd cymunedol yn cael profiad theatrig gwbl unigryw yn ystod tymor yr Hydref eleni.Mae’r ‘Arandora Star’ yn olrhain hanes teuluoedd Eidalaidd a oedd yn byw yng nghymoedd De Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r sioe yn dilyn stori y 446 dyn a foddwyd ar eu ffordd i wersyll caethiwedigaeth, pan gamgymerwyd ‘Yr Arandora Star’ am long ryfel gan long danfor Almaeneg, a’i fomio. Dilynir stori wir Lina a oedd yn dyst i’w thad yn cael ei arestio a’i lusgo o’u caffi, a’i gorchwyl o ddarganfod y gwirionedd. Wedi ei hysgrifennu i bobl ifanc a’i pherfformio yn Theatr y Dylan Thomas yn Abertawe, mae’r preswylfa flynyddol hon yn boblogaidd iawn gyda ysgolion a grwpiau cymunedol. Fel prosiect diwrnod cyfan, mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc nid yn unig i weld y gorau o theatr Cymraeg ond i ymwneud hefyd a gweithgareddau arbennig yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Lucy Saunders, athrawes o Ysgol Gynradd Plasmarl Abertawe oedd yr athrawes a lwyddodd i archebu y perfformiad rhydd olaf i’w disgyblion. Roedd hi wrth ei bodd achos ‘dyma’r peth gorau ry’n ni’n ‘neud gyda’r plant trwy’r flwyddyn’. ‘Mae hi wastod wedi bod yn brosiect poblogaidd’ meddai Geinor Styles, Cyfarwyddydd Artistig Cwmni Theatr na n'Óg, ‘mae blaen werthiant syfrdanol y tocynnau eleni yn dyst i ansawdd y gwaith mae’r cwmni wedi creu dros bron i 30 mlynedd. Rydym ni wthi’n trafod y posiblrwydd o ychwanegu mwy o berfformiadau er mwyn cyflawni’r galw’ Os nad ydych wedi cael cyfle i weld y sioe hynod hon, mae tocynnau unigol ar gael o hyd am ambell i berfformiad nos. Os oes diddordeb gennych, ebostiwch drama@theatr-nanog.co.uk neu ffoniwch 01639 641 771 Yr Arandora Star yw un o 6 sioe cyffrous a gynhyrchir gan Theatr na n'Óg eleni. Am fwy o wybodaeth, ewch www.theatr-nanog.co.uk, neu dilynwch ni ar twitter @theatrnanog. |
| Theatr na n'Óg web site: www.theatr-nanog.co.uk |
| e-mail: |
| Friday, July 8, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mi fydd 5,000 o bobl ifanc a chynulleidfaoedd cymunedol yn cael profiad theatrig gwbl unigryw yn ystod tymor yr Hydref eleni.