Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Ar Daith gyda’r Perfformwyr Ifanc     

Ar Daith gyda’r Perfformwyr Ifanc Mae VW camper-van yn chwarae rhan flaenllaw yn ymgyrch cyhoeddusrwydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru* eleni ond bydd angen ychydig mwy o seddau na hyn ar aelodau’r Band Pres, Côr, Dawns, Cerddorfa a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid i’w cludo i amrywiol fannau yn yr wythnosau i ddod.

Yn wir, bydd angen o leiaf saith bws i gludo 300 aelod CCIC 2011 i ddeddeg lleoliad i gyflwyno deunaw perfformiad cyhoeddus – a hyn oll mewn cyfnod byr o chwe wythnos. Rhyngddynt, byddant yn teithio oddeutu 1,000 o filltiroedd – o Dyddewi yn Sir Benfro i Gateshead yng ngogledd Lloegr.

“Wales is blessed with some incredibly talented young people and that we have such a gifted pool of talent never ceases to amaze us. Year-on-year, standards get higher and there is increasing competition to gain places. Credit must go to the young people themselves, their local teachers, local music/theatre and dance services, for the tremendous groundwork that goes on week-in, week-out – in local schools, colleges, church halls, youth and community centres, arts centres and theatres across Wales – without which NYAW would not exist”
Pauline Crossley, Uwch Reolwr (Celfyddydau Ieuenctid)

Eleni, bydd amrywiol bersonoliaethau CCIC yn blogio, yn trydar ac yn rhoi negeseuon ar Facebook er mwyn i ddilynwyr gael gwybod y diweddaraf am eu diwrnod arferol (yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau!) ac i gynnig golwg ar yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni gyda CCIC. Dechreuodd y dawnswyr ifanc ‘flogio’ yn barod http://nationalyouthdancewales.blogspot.com/

“Fel aelod newydd o’r cwmni rwy’n ofnus ac yn cyffrous ar yr un pryd am yr holl brofiad.”
Aelod DGIC 2011, Hanna Lyn Hughes, o Gaerdydd

Mae uchafbwyntiau tymor yr haf eleni’n cynnwys:
• 65ed Pen-blwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gyda’r Arweinydd o fri rhyngwladol,Takuo Yuasa, a pherfformiad Ewropeaidd cyntaf y Gerddorfa o From the Feather to the Mountain gan gyn-aelod CGIC, Hilary Tann;
• cyfansoddiad arall gan Hilary Tann, ynghyd ag Offeren yn C (Op.86) Beethoven i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi’i gyfeilio gan aelodau h_n y Gerddorfa, yn amgylchoedd ysblennydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi;
• Consierto i’r Ewffoniwm Karl Jenkins gyda David Childs a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru;
• ymddangosiadau yn lleoliad y celfyddydau mwyaf newydd Caerdydd yn CBCDC – Theatr Richard Burton i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Neuadd Gyngerdd Dora Stoutzker i’r Band Pres;
• tri gwaith comisiwn cwbl newydd, yn eu plith Patagonia – yr hirdaith i Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a ddyfeisiwyd gan Tim Baker ac aelodau ThCIC 2011.



Mae CCIC hefyd yn dilyn hynt a helynt cyn-aelodau sy’n mwynhau gyrfaoedd proffesiynol, llwyddiannus, ym maes y celfyddydau perfformio. Yn eu plith mae: Tim Rhys-Evans Only Men Aloud, Bryn Terfel a Kathryn Jenkins yr oeddent i gyd yn aelodau Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; y Coreograffydd, Henri Oguike fu’n aelod o’r Theatr Cenedlaethol Ieuenctid, ac a ddychwelodd atom wedyn fel Cyfarwyddwr Artistig Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru; a chyn-aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Karl Jenkins, John Cale ac Eos Chater (sy’n enwog fel aelod o Bond). Ceir cynrychioliaeth gref o’r Theatr Ieuenctid ym myd y theatr, ffilm a’r teledu gyda Ruth Jones, Joanna Page, Michael Sheen a Matthew Rhys (o blith nifer!) – heb sôn am yr actores, Eve Myles, a’r awdur, Russell T Davies, sy’n brysur ar hyn o bryd yn sicrhau bod cyfres ddiweddarafTorchwood yn cyrraedd ein sgriniau.

Partneriaeth yw CCIC rhwng CBAC a T_ Cerdd. Mae’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC), y 22 awdurdod unedol a noddwyr allweddol eraill er mwyn cynnal ei raglen flynyddol o weithgareddau a digwyddiadau. Yn gynyddol hefyd, mae’n chwilio am bartneriaid a noddwyr eraill i fuddsoddi mewn dyfodol iach a bywiog i’r genhedlaeth nesaf o greawdwyr a pherfformwyr ifanc.

Ewch i www.nyaw.co.uk i weld rhestr digwyddiadau, y newyddion diweddaraf a chysylltau â Blogiau CCIC! Neu cysylltwch â swyddfa CCIC ar 029 2026 5060 / nyaw@nyaw.co.uk
 
web site
: www.nyaw.co.uk

e-mail:
Tuesday, July 19, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk