Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru Yn ‘Sgint’!     

 Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru Yn ‘Sgint’! Bydd y darlleniad cyntaf o ddrama gair am air (verbatim) yn cael ei chyflwyno yn Theatr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr wythnos nesaf.

Mae ‘Sgint’ gan Bethan Marlow, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, yn waith sydd mewn datblygiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru gyda’r bwriad o greu cydgynhyrchiad gyda Galeri Caernarfon yn y dyfodol.

Mae’r ddrama yn waith verbatim lle mae’r dramodydd yn cyfuno cyfres o gyfweliadau sydd yn trafod arian gyda thrigolion tref Caernarfon gan greu drama wrth ddefnyddio ei union eiriau nhw.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Dwi’n hynod o gyffrous i gael rhannu y ddrama unigryw yma gydag Eisteddfodwyr yr wythnos nesa. Bwriad y darlleniad yw rhoi blas o’r hyn sydd yn cael ei ddweud yn ‘Sgint’ ac i gael adborth adeiladol gan y gynulleidfa ar sut y gellid datblygu’r gwaith ymhellach.”

Meddai Sian Summers, Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru: “Mae’r gwaith o ddatblygu Sgint wedi bod yn yr arfaeth ers bron i ddwy flynedd. Mae’n braf i ddatblygu prosiect sy’n cyfuno gweithio gydag awdur ifanc, talentog a gwaith sy’n ymwneud â chymuned benodol fel Caernarfon yn enwedig gan fod y pwnc yn un mor amserol.”

Bydd y darlleniad yn cael ei gynnal ar Ddydd Mawrth 02 Awst 2011 am 3:30pm yn Y Theatr, Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Bydd cyfle i drin a thrafod y ddrama yn dilyn y darlleniad.

 
web site
: www.theatr.com

e-mail: elin@theatr.com
Friday, July 29, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk