Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

CWMNI THEATR CYMRAEG YN CHWILIO AM DALENT IFANC     

CWMNI THEATR CYMRAEG YN CHWILIO AM DALENT IFANC Mae’r cwmni theatr Cymraeg Cwmni’r Frân Wen yn chwilio am sêr theatr y dyfodol yng Ngogledd Cymru fel rhan o’u prosiect drama a theatr newydd sbon i bobl ifanc.

Defnyddiodd y cwmni theatr, sy’n seiliedig ym Môn, yr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i lansio Brain, prosiect unigryw i chwilio am 25 o bobl ifanc rhwng 11-25 mlwydd oed o Ogledd Cymru allai helpu i siapio dyfodol theatr i blant a phobl ifanc.

Nod y prosiect yw dod o hyd i bobl ifanc brwdfrydig sydd â diddordeb yn y celfyddydau, ac sy’n dymuno cyfrannu at waith cyffrous ac arloesol o ddiddordeb i bobl ifanc Cymru. Bydd y prosiect yn rhoi’r cyfle iddynt rannu syniadau, gweld ac adolygu cynyrchiadau theatr proffesiynol, ac i gael eu mentora gan staff profiadol Cwmni’r Frân Wen.

Amcan Brain yw creu ton newydd o syniadau a safbwyntiau ffres, a darparu carreg sarn ddelfrydol i’r rheini sy’n gobeithio am yrfa ym myd y celfyddydau. Trwy weithdai a chyfarfodydd rheolaidd bydd y prosiect arloesol hwn yn rhoi cyfle unigryw i gyfranogwyr ennill profiad llygad-ffynnon o ddatblygu cynyrchiadau, o’r broses gynllunio drwodd i’r llwyfan, a chyfarfod pobl o’r un anian a meddylfryd i drafod y diweddaraf o’r sîn theatr Gymraeg.

Mae Cwmni’r Frân Wen, sy’n darparu cynyrchiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, wastad wedi anelu at sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o waith y cwmni.

Mae’r actor Rhodri Meilir yn esiampl ysbrydoledig o beth mae Cwmni’r Frân Wen yn gobeithio’i gyflawni. Ym 1997, pan yn fachgen ysgol ifanc yn yr Wyddgrug roedd Rhodri yn rhan o gynllun ysgrifennu dan arweiniad y cwmni theatr, ac fe gafodd un o’i sgriptiau ei llwyfannu. Ers hynny mae o wedi cyfrannu’n rheolaidd tuag at amrywiaeth o gynyrchiadau ac mae bellach yn llywydd ar y cwmni.

Wrth siarad am y prosiect newydd yn y lansiad, dywedodd yr actor Rhodri Meilir, “Mae Brain yn gyfle unigryw i bobl ifanc o Ogledd Cymru sy’n teimlo y gallant gyfrannu tuag at gynyrchiadau’r cwmni yn y dyfodol. Mae darganfod a meithrin talent newydd wastad wedi bod yn un o brif amcanion Cwmni’r Frân Wen.

“Wrth dyfu i fyny, dysgais ddawn y theatr drwy un o gynlluniau ysgrifennu Cwmni’r Frân Wen. Roedd gen i syniadau, ond trwy gymryd rhan yn y prosiect hwnnw fe ges i’r cyfle i gael fy mentora gan bobl broffesiynol a phrofiadol ac i ddatblygu fy syniadau mewn awyrgylch broffesiynol. Mae prosiectau ieuenctid Cwmni’r Frân Wen yn agos iawn at fy nghalon i.

Aeth Rhodri yn ei flaen, “Wedi bod yno fy hun, ni allaf feddwl am unrhyw ffordd well i bobl ifanc ennill profiad o gynhyrchu theatr, a chyfrannu a rhannu syniadau o’r cysyniad cychwynnol hyd at y perfformiad llwyfan. Bydd Brain yn darparu carreg sarn i bobl ifanc i fewn i fyd theatr Cymraeg.”

Hefyd yn bresennol yn y lansiad yr oedd Cadeirydd Cwmni’r Frân Wen, Richard Meirion Jones. Ychwanegodd, “Plant a phobl ifanc ydi dyfodol theatr Cymru. Mae meithrin talent newydd a datblygu ysgrifennu arloesol newydd yn y Gymraeg yn flaenoriaeth gan Gwmni’r Frân Wen. Mae ffynnon ddofn o dalent yma yng ngogledd Cymru; mae’n ddyletswydd arnom i’w sianelu yn y cyfeiriad cywir, gan gyfuno profiad gyda syniadau ffres i greu cynyrchiadau o’r safon gorau posib.

Aeth yn ei flaen, “Yr ymgeiswyr llwyddiannus fydd asgwrn cefn theatr Cymru yn y dyfodol, sy’n golygu fod Brain yn gam unigryw a hynod bositif ymlaen i’r dyfodol. Dim ond 25 o lefydd sydd i’w llenwi, felly byddwn yn chwilio am rheini sy’n sefyll allan yn greadigol – y goreuon yn unig fydd yn cael eu derbyn.”

Dyddiad cau’r ceisiadau yw’r 30ain o Fedi 2011, a bydd 25 o ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu henwi ar-lein yr wythnos ganlynol ar y 7fed o Hydref 2011. Am ragor o wybodaeth neu er mwyn gwneud cais ewch i: www.franwen.com/brain.
Cwmni Fran Wen  
web site
: www.franwen.com/brain

e-mail:
Wednesday, August 10, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk