Fel rhan o’u sioe newydd bydd y ‘Disabled Avant-garde’ (neu’r DAG), sef y mudiad a sefydlwyd gan yr artistiaid Katherine Arianello ac Aaron Williamson, yn cynnal gwersyll deuddydd eithaf gwahanol ar lannau hyfryd yr Afon Hafren, nid nepell o ganol y Drenewydd ac Oriel Davies.Bydd y digwyddiad rhyfedd yn para am gyfnod byr yn unig, a’r bobl yn ymddangos yn hollol ddirybudd fel petai. Bydd Gwersyll DAG yn ‘tarfu’ ar fywyd pob dydd gan lwyr syfrdanu pobl y dref. Bwriad y digwyddiad ydi herio canfyddiadau pobl ynghylch beth sy’n ein gwneud yn ‘aelod o’r gymdeithas’ gan wneud i ni feddwl dwywaith am y bobl sy’n cael eu heithrio o gymdeithas ac o fyd celfyddyd. Bydd Araniello ac Williamson ynghyd ag wyth artist anabl arall o Gymru yn ‘perfformio’ yn y gwersyll. Yn ymuno â nhw bydd llu o bobl anabl eraill, ynghyd â’r rheini sy’n eu cynorthwyo. Byddan nhw’n defnyddio pob math o offer, fel carafannau, pebyll o bob lliw a llun, ceffylau a ch_n, a phluen fain o fwg tân gwersyll. Bydd y cerddwyr chwilfrydig fydd yn digwydd taro ar yr artistiaid efallai’n sylwi ar ymddygiad anarferol y gr_p. Bydd hyn yn esgor ar gwestiynau di ri: Pwy ydyn nhw? Sut cyrhaeddon nhw yma? O ble ddaethon nhw? Bydd y gr_p yn drysu’r cyhoedd ac yn herio’u tybiaethau ynghylch ‘yr hyn sy’n digwydd’ yn eu parc. Bydd hanes y digwyddiad yn dew drwy’r dref. Mae gwaith Araniello ac Williamson wedi ei sylfaenu ar berfformio a ffilm. Byddan nhw’n creu ffilm o rai o uchafbwyntiau’r gwersyll, a’r bwriad yw ei harddangos yn Oriel Davies ym mis Medi 2012. Caiff camera cudd ei ddefnyddio i ffilmio ymateb pobl. Yn wir, mae ymateb trigolion y Drenewydd i Wersyll DAG yn rhan annatod o’r gwaith. Mae’r digwyddiad yn rhan o ‘Outside IN’, sef cynllun sy’n ceisio cynyddu’r nifer o artistiaid anabl a byddar sy’n cydweithio ag orielau prif ffrwd. Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng DASH (Disability Arts Shropshire), Yr Oriel Gelf Newydd, Walsall ac Oriel Gelf Wolverhampton. Ariennir y cynllun gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys. |
| Oriel Davies Gallery web site: www.orieldavies.org |
| e-mail: |
| Wednesday, August 31, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Fel rhan o’u sioe newydd bydd y ‘Disabled Avant-garde’ (neu’r DAG), sef y mudiad a sefydlwyd gan yr artistiaid Katherine Arianello ac Aaron Williamson, yn cynnal gwersyll deuddydd eithaf gwahanol ar lannau hyfryd yr Afon Hafren, nid nepell o ganol y Drenewydd ac Oriel Davies.