Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

SALSA! Rom - com newydd disglair Gymraeg i’ch swyno oddi ar eich traed!     

SALSA! Rom - com newydd disglair Gymraeg i’ch swyno oddi ar eich traed! Ar daith ledled Cymru Hydref 6ed tan Dachwedd 4ydd, 2011.
Cael ei berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nos Fawrth 18 Hydref, 7.30pm.

Dewch i gwrdd â Wayne Needy - seryddwr amatur a thew sydd o dan y fawd a fydd yn eich syfrdanu mewn cynhyrchiad newydd ffantastig - SALSA! Dyma gyd gynhyrchiad rhwng Theatr na n’Óg a Theatr Mwldan. Mae Salsa yn rom - com Cymraeg llawn egni sydd i’w lansio yn Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, cyn teithio Cymru rhwng Hydref 6ed a Thachwedd 4ydd.

Mae Phyl Harries, sy’n chwarae’r prif gymeriad Wayne Needy yn un o actorion mwyaf poblogaidd Cymru gyda nifer o ymddangosiadau teledu i’w enw (gan gynnwys Torchwood, Pobol y Cwm, Doctor Who a Tracey Beaker.) Mae e hefyd yn adnabyddus ym myd y theatr fel actor a chyfarwyddwr pen i gamp.

Caiff y gynulleidfa gyfle i weld Phyl fel nas gwelwyd o’r blaen - yn tinsiglo’n hudolus ar y llawr dawns yn y ddrama newydd sbon yma. Mae’r actorion yn ymgymryd â hyfforddiant arferion dwys o dan y coreograffydd dawns Maggie Rawlinson er mwyn sicrhau eu bod yn barod mewn pryd.

Dywed Phyl: ‘ Mae Salsa yn noson braf i chi ac fe fyddem yn annog unrhyw un sydd yn siarad Cymraeg sylfaenol, neu sy’n dysgu’r iaith ryfeddol i ddod i fwynhau’r sioe sy’n addas i ddysgwyr o bob safon. Mae’n ddrama wych gyda llawer o hiwmor hefyd. Mae’n ddrama weledol iawn sydd wedi’i geirio’n dda.’
Stori ydyw am Wayne a Rhian, pâr canol oed sy’n ysu am ddechrau teulu ac sy’n ymuno â dosbarth Salsa er mwyn colli pwysau. Mae Rhian yn troi ei phigwrn ac yn rhoi’r gorau iddi, ond mae Wayne (sy’n gyfrinachol yn ceisio plesio ei wraig), yn parhau gyda’r gwersi er mwyn iddo fedru dangos y symudiadau newydd. Mae e hefyd am golli pwysau.

Y broblem yw’r ffaith bod yr athrawes ddawns, Adela yn ddynes hynod hardd. A thra bod gan Wayne dipyn o ddawn naturiol gyda’r Salsa yn cael ei swyno gan y drawiadol Adela, mae’n dechrau hoffi’r sylw.
Dywed Phyl bod y gynulleidfa ar bigau’r draen yn meddwl a fydd Wayne yn dilyn ei galon neu’i ben yn y diwedd. A fydd e’n penderfynu aros gyda’i wraig neu fynd gydag Adela?

Meddai: ‘ Mae’n ddrama ardderchog, llawn hwyl a sbri. Mae llawer o gymeriadau diddorol eraill i’w cyfarfod ac fe fydd digon o ddawnsio cha - cha a’r tango yn ogystal â Salsa. Mae’n ddrama gorfforol, llawn egni.’
Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnwys talentau disgyblion Salsa o bob rhan o Gymru ac mae Theatr na n’Óg yn chwilio am gyplau i gymryd rhan yn y perfformiadau ac ymddangos ar lwyfan gyda chast proffesiynol.
Bydd y cwmni yn mynd ati i ymweld â 12 lleoliad ar draws Cymru.

Caiff SALSA ei lansio yn Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog o’r 2ail hyd at y 5ed o Awst yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gallwch ddilyn y seren Wayne Needy ar Twitter, sef @WayneNeedy. Cewch gyfle i weld clipiau o’r cast yn ymarfer hefyd drwy ymweld â www.theatr-nanog.co.uk
Theatr na n’Óg a Theatr Mwldan  
web site
: www.theatr-nanog.co.uk

e-mail:
Tuesday, September 20, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk