Yn ystod mis Medi eleni bu Canolfan Arad Goch yn fwy prysur nag erioed wrth inni baratoi tri cynhyrchiad i fynd ar daith!‘Rydym yn ffodus iawn bod y Ganolfan yn cynnig cyfleodd a chyfleusterau i ganiatau inni ymarfer tair sioe ar yr un pryd! Mae wedi bod yn gret i gael actorion, cerddorion, cyfarwyddwyr a dylunwyr hen a newydd i gyd dan yr un to, mae wedi bod yn gyfnod cyffrous a phrysur tu hwnt inni fel cwmni, ond rydym yn falch iawn o’r canlyniad, a’r cyfle i rannu tair sioe sy’n gwbl wahanol i’w gilydd!’ Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch. ‘Cler Hudol a’r Bwyd Symudol’ oedd y sioe gyntaf i adael y ganolfan a mynd ar daith. Sioe newydd a chyffrous yng nghwmni’r ddau gyflwynydd teledu Anthony Evans a Alun Williams, a’r actores Lowri Sion. Syniad Al ac Ant oedd datblygu sioe theatr, ac oherwydd ein arbenigedd yn y byd theatr i gynulleidfaoedd ifanc, reddent yn awyddus i gydweithio â ni i ddatblygu eu syniadau a chreu cynhyrchiad theatr i gynulleidfa ifanc a theuluoedd. Cychwynnodd y daith gyhoeddus hon yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin ar y 19eg o Fedi, ac wedi teithio i nifer o theatrau a chanolfannau cymunedol led led Cymru, bydd y sioe olaf yn cael ei pherfformio Dydd Sadwrn yma, yr 8fed o Hydref yn Theatr Bro Alaw, Bodedern. ‘Ar eich Marciau, barod ewch!’ Yr ail sioe i adael y Ganolfan oedd ‘Ar Eich Marciau’, sioe newydd sbon wedi ei datblygu ar y cyd rhwng yr actores Ffion Wyn Bowen a Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch. Ffion sy’n rhedeg clwb blAGur, clwb drama wythnosol Arad Goch i blant ysgolion cynradd, a Ffion fydd yn rhedeg trwy’r cynhyrchiad hwn – cynhyrchiad wedi ei selio ar ferch sy’n rhedeg ras! Tra’n rhedeg mae’r ferch yn hel atgofion am ei phlentyndod; chwarae gemau gyda’i brawd, siopa gyda’i ffrindiau a gwrando ar gyngor oedolion. Gyda chyfuniad o berfformiad egniol, tensiwn a chyffro cerddoriaeth fyw, sy’n cael ei berfformio gan Simon Lovett, a set effeithiol wedi ei ddylunio gan Cordellia Ashwell, mae’r sioe hon yn sicir o ysbrydoli a dylanwadu ar y meddyliau ifanc. Cychwynnodd y daith o amgylch yr ysgolion cynradd yn ysgol Penrhyncoch ar y 5ed o Fedi, a bydd y daith yn dod i ben yn ysgol Cei Newydd ar yr16eg o Ragfyr. ‘Fuodd Arad Goch erioed yn swil o daclo materion dadleuol – a diolch byth am hynny’ Meleri Wyn James, Adolygydd Crash 2005. Y sioe olaf i adael y ganolfan oedd CRASH, sioe addas i gynulleidfa ysgolion uwchradd a theuluoedd. Cychwynnodd y daith ar Ddydd Llun Hydref y 3ydd yn Ysgol Uwchradd Tregaron, ac yn ystod y saith wythnos nesaf bydd y sioe yn ymweld â nifer o ysgolion uwchradd, theatrau a chanolfannau cymunedol led led Cymru. Comisiynwyd y ddrama ei hun gan Gwmni Theatr Arad Goch nol yn 2001, ac wedi ei ysgrifennu gan Sera Moore Williams, mae’r ddrama yn waith uchel ei pharch a hynny ar lefel rhyngwladol. Dros y blynyddoedd mae nifer o gwmniau o dramor ac o Brydain wedi perfformio’r gwaith, a llwyddodd y ddrama i gyrraedd rhestr fer Gwobr Drama Brian Way yn 2005, un o’r gwobrau enwocaf i waith theatr i gynulleidfaoedd ifanc. Yn 2005 aeth Arad Goch a’r sioe ar daith i ysgolion, ac yn dilyn clod a gofyn mawr am ail daith penderfynnwyd teithio’r sioe eto yn 2007, gan ymestyn y daith i berfformiadau cyhoeddus ar gyfer teuluoedd. Roedd yr ymateb yn wych, a gwelwyd nifer o bobl ifanc yn ymweld â’r theatr am y tro cyntaf er mwyn gweld y cynhyrchiad egniol hwn. Drama am gariad yw Crash yn y bon, wedi ei seilio ar fywyd tri disgybl ysgol uwchradd, ‘Elin’, ‘Wes’ a ‘Rhys’. Wrth fyw trwy straen yr arholiadau mae’r tri yn wynebu cyfnod anodd wrth geisio’i gorau i ‘ffitio mewn’ a phleseio pawb! Mae’r ddrama bellach ar faes lafur CBAC, ond mae’n ddrama y gallwn ôll uiaethu â hi wrth inni awchu am gyffro yn ein bywydau dyddiol. Llŷr Edwards yw’r unig un o’r cast gwreiddiol sy’n ymddangos yn y cynhyrchiad hwn. Ceri Mill o ardal Bangor sy’n chwarae rhan Elin, mae Ceri’n wyneb adnabyddus wedi ymddangos ar ein sgrins teledu mewn cyfresi megis Pobl y Cwm a Tipyn o Stad, ond dyma’r tro cyntaf iddi gydweithio gydag Arad Goch. Wedi graddio o Brifysgol Morgannwg yn gynharach eleni, mae Craig Walkley a Gethin Evans wedi arfer cydweithio gyda’i gilydd, a gyda’r gyfarwyddwraig Sera Moore Williams, gan mai hi oedd un o’i darlithwyr yn y Coleg! Bu Gethin yn cydweithio gyda Theatr Ieuenctid Cymru a 3D yn gynharach eleni, tra bu Craig yn chwarae rhan un o’r milwyr ‘Trojan’ yn y ffilm Clash of the Titans 2! Am wybodaeth bellach am y teithiau uchod a’r newyddion diweddaraf cysylltwch â Heulwen Davies ar 01970 617 998 neu ewch i’n gwefan: www.aradgoch.org neu dilynnwch ni ar Facebook neu Twitter! |
| Arad Goch web site: www.aradgoch.org |
| e-mail: |
| Thursday, October 6, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Yn ystod mis Medi eleni bu Canolfan Arad Goch yn fwy prysur nag erioed wrth inni baratoi tri cynhyrchiad i fynd ar daith!