Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn atgyfodi’r sioe gerdd boblogaidd ‘Deffro’r Gwanwyn’ i fynd ar daith genedlaethol unwaith eto y Gaeaf hwn, gyda pedwar aelod newydd yn ymuno â’r cast.Yn seiliedig ar ddrama ddadleuol Frank Wedekind ‘Spring Awakening’, mae’r sioe gerdd ‘Deffro’r Gwanwyn’, a gyfieithiwyd i’r Gymraeg gan Dafydd James, yn stori ddadleuol fyth gofiadwy am siwrne pobl ifanc yn eu harddegau i oedolaeth ac mae’n ymdrin â gormes rhywiol wedi ei hadrodd mewn ffordd gonest a miniog. Cafodd ‘Deffro’r Gwanwyn’ ei llwyfannu yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru yn mis Mawrth/Ebrill 2011 a bu’r sioe yn lwyddiant ysgubol gydag amryw o’r nosweithiau â phob tocyn wedi ei werthu. Ond gyda’r ail lwyfaniad mae pedwar aelod newydd i’r cast sef Victoria Pugh a fydd yn portreadu’r amryw oedolion; Nia Ann o Gaerfyrddin a fydd yn chwarae rhan Ilse; Siôn Ifan a ddaw’n wreiddiol o Gaerfyrddin a fydd yn chwarae rhan Georg a Tomos Eames a fydd yn ymgymryd â rhan Haschen. Mae aelodau eraill o’r cast yn cynnwys Dyfed Thomas (amryw oedolion), Aled Pedrick (Melchior), Iddon Jones (Moritz), Meilir Rhys Williams (Ernst), Berwyn Pearce (Otto), Zoe George (Martha), Ellen Ceri Lloyd (Wendla), Elain Lloyd (Anna) a Elin Llwyd (Thea). Bydd y daith hefyd yn cynnig rhai sioeau wedi eu uwchdeitlo yn Saesneg er mwyn apelio i gynulleidfa di-gymraeg neu sydd yn dysgu Cymraeg a hefyd rhai perfformiadau yn y prynhawn. Y gyfarwyddwraig amryddawn Elen Bowman fydd wrth y llyw yn cyfarwyddo unwaith eto a Dyfan Jones yn Gyfarwyddwr Cerdd. Meddai Elin Williams, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae’n braf ein bod ni yn gallu aillwyfannu sioe a oedd mor boblogaidd a gobeithiwn yn fawr y bydd y cynulleidfaoedd yn tyrru i’w gweld unwaith eto. Roedd ymateb y gynulleidfa, yn enwedig yr tô ifanc i’r ddrama gerdd yn rhyfeddol, ac er i’r ddrama wreiddiol gael ei ysgrifennu nôl yn 1891, mae’r modd yr addaswyd y ddrama i fod yn ddrama gerdd yn apelgar iawn i bobl ifanc ac mae’r themâu yn oesol. Bydd Deffro’r Gwanwyn yn agor yn Y Llwyfan, Caerfyrddin ar 09 – Tachwedd 2011 cyn symud ymlaen i Ganolfan hamdden Glaslyn, Porthmadog 15-17 Tachwedd 2011; Canolfan Hamdden Y Flash, Y Trallwng 21-22 Tachwedd 2011; Canolfan Hamdden Pontardawe 25, 26 & 28 Tachwedd 2011 a Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru ar 1-3 Rhagfyr 2011. Am fwy o fanylion am sioeau prynhawn a sioeau wedi eu uwchdeitlo ewch i www.theatr.com. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Friday, October 21, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn atgyfodi’r sioe gerdd boblogaidd ‘Deffro’r Gwanwyn’ i fynd ar daith genedlaethol unwaith eto y Gaeaf hwn, gyda pedwar aelod newydd yn ymuno â’r cast.