|
Sherman Cymru yn cyflwyno stori fytholwyrdd i blant y Nadolig hwn |
Y Nadolig hyn bydd Sherman Cymru yn cyflwyno Y Coblynnod a’r Cryddion/ The Elves and the Shoemakers – stori hudolus i blant dan 7 oed a’u teuluoedd.Stori yw Y Coblynnod a’r Cryddion / The Elves and the Shoemakers sy’n sôn am ddau Grydd - g_r a gwraig, sy’n rhy hen ac yn rhy flinedig i wneud rhagor o esgidiau. ‘Does dim briwsionyn ar ôl yn y t_, dim pren i’w roi ar y tân, a dim arian i brynu anrhegion Nadolig i’w gilydd. Yna, ar drothwy Noswyl y Nadolig mae dau o Goblynnod bach direidus yn taenu ychydig o hud er mwyn helpu’r ddau hen Grydd. Mae syniad gan y Coblynnod bach… mae un darn o ledr ar ôl i wneud un pâr arall o esgidiau… Mae James Williams y Cyfarwyddwr wedi’i gyffroi wrth feddwl am weithio ar y sioe: “Hon oedd un o fy hoff straeon pan o’n i’n fachgen. Yn aml iawn mae plant yn ofni’r hyn allai fod yn llechu yn y tywyllwch (‘roeddwn i yn bendant) ond yn y sioe yma, pan mae’r Cryddion yn mynd i’r gwely, mae rhywbeth rhyfeddol yn ymddangos o’r tywyllwch; dau Goblyn bach drwg a gwirion iawn sydd yno, sy’n cynnig help llaw ac yn taenu lot o hud Nadoligaidd. “Mae yna gymaint o bethau hyfryd yngl_n â’r ddrama hon. O’r eiliad daw’r plant i’r awditoriwm maent yn cael eu cyflwyno i fyd newydd hudolus, a’r wobr am ymddwyn yn fonheddig ac yn gwrtais yw dogn helaeth o lwc dda. Dau Byped anhygoel fydd yn cynrychioli’r Coblynnod, a bydd y gerddoriaeth hyfryd yn cael ei chwarae’n fyw.” Mae gan Sherman Cymru draddodiad cadarn o ddarparu theatr safonol i blant ifanc iawn, y cyfan wedi’i lwyfannu mewn modd sy’n wledd i’r llygad. Mae gan y cynhyrchiad berfformiadau Saesneg (The Elves and the Shoemakers) a Chymraeg (Y Coblynnod a’r Cryddion). Bydd Y Coblynnod a’r Cryddion / The Elves and the Shoemakers yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 13 - 31 Rhagfyr – am amseroedd llawn ewch i www.wmc.org.uk Pris y tocynnau yw £6 a gellir archebu drwy ffonio 029 2063 6464 neu archebu ar y we -www.wmc.org.uk |
| web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Monday, October 24, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Y Nadolig hyn bydd Sherman Cymru yn cyflwyno Y Coblynnod a’r Cryddion/ The Elves and the Shoemakers – stori hudolus i blant dan 7 oed a’u teuluoedd.