Mae’r byd yn newid a tydi pethau ddim fel maen nhw’n ymddangos. Dyna’r neges sy’n cael ei adrodd gan Gwmni’r Frân Wen wrth iddynt daflu theatr Gymraeg mewn i’r unfed ganrif ar hugain gyda chynhyrchiad newydd rhyngweithiol digidol. Am y tro cyntaf erioed mae’r cwmni theatr Cwmni’r Frân Wen yn mentro i fyd 3D gyda thaith cynhyrchiad newydd Dividefaid. Bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith drwy Wynedd, Môn a Chonwy o 9fed o Dachwedd – 9fed o Ragfyr, lle caiff ymwelwyr eu hysbrydoli gan y profiad digidol. Tydi meistroli symudiadau robotaidd ddim yn sgil y byddai actorion yn dychmygu y byddent yn dod yn gyfarwydd â hi yn ystod eu gyrfa, ond dyna’n union sy’n rhaid i Dyfrig Evans ac Andrea Edwards ei wneud wrth baratoi ar gyfer perfformio’r cynhyrchiad newydd. Dywedodd Andrea, sy’n seiliedig yn Nolgellau ac yn chwarae rhan robot D-Ben yn y sioe, “Roedd o’n wahanol i unrhywbeth dwi wedi actio ynddo o’r blaen, ac yn fy atgoffa o symunidadau robot fy nyddiau dawnsio disgo yn yr wythdegau!” “Dwi’n chwarae rhan robot sy’n wyneb cyfeillgar corfforaeth clonio o’r dyfodol sy’n chwilio’r byd am bobl addas i’w clonio. Mae’n eitha’ arswydus a deud y gwir.” Mae Cwmni’r Frân Wen, sy’n seiliedig ym Mhorthaethwy, Sir Fôn yn gweithredu’n bennaf yng Ngogledd Orllewin Cymru ac yn darparu cynyrchiadau mentrus ac arbrofol o safon uchel i bobl ifanc yng Nghymru. Dywed Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen, “Mae Dividefaid yn torri tir newydd i ni fel cwmni wrth i ni fentro i fyd rhyngweithiol 3D. Y nod ydi tanio dychymyg pobl wrth greu byd newydd o’r dyfodol drwy ddefnyddio technoleg taflunio blaengar.” Y gŵr sy’n gyfrifol am y dechnoleg 3D ydi Rob Spaull o gwmni Mediapod ym Mae Colwyn. Mae Rob, sydd wedi bod yn cynhyrchu delweddau 3D ers dros ddeng mlynedd, wedi creu byd 3D rhithwir sy'n eistedd o fewn y set. Daw’r enw Dividefaid o’r geiriau ‘divide’ a ‘defaid’. Yn ystod y sioe ryngweithiol bydd gofyn i’r gynulleidfa wneud penderfyniadau fydd yn golygu y byddent yn gwahanu, neu’n tyrru at ei gilydd fel defaid. Ychwanega’r perfformiwr ac actor Dyfrig Evans, “Mae Dividefaid yn gynhyrchiad cwbl unigryw. Mae hi’n fwy na jysd sioe - mae’n brofiad rhyfeddol fydd yn gwneud i’r gynulleidfa ddechrau amau’r byd o’u cwmpas.” Bydd taith Dividefaid yn cael ei chynnal rhwng 9 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2011. Mae tocynnau ar gael drwy ar wefan Cwmni’r Frân Wen www.franwen.com, neu drwy ffonio 01248 715 048. MANYLION Y DAITH Dwy perfformiad y noson am 6pm a 7.30pm. Ticedi £4 yr un. TACHWEDD 2011 9 Ysgol Brynrefail, Llanrug 10/11 Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon 14 Ysgol David Hughes, Porthaethwy 16 Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda 17 Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog 18 Neuadd Goffa Felinheli 20/21 Neuadd Ddinesig Conwy 23 Neuadd Betws yn Rhos 24 Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst 28 Y Plas, Machynlleth 29/30 Neuadd Goffa Criccieth RHAGFYR 2011 1 Ysgol Uwchradd Botwnnog 2 Ysgol y Berwyn, Bala 5/6 Ysgol Uwchradd Bodedern 8 Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth 9 Ysgol y Gader, Dolgellau |
| Fran Wen web site: www.franwen.com |
| e-mail: |
| Wednesday, November 2, 2011 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae’r byd yn newid a tydi pethau ddim fel maen nhw’n ymddangos. Dyna’r neges sy’n cael ei adrodd gan Gwmni’r Frân Wen wrth iddynt daflu theatr Gymraeg mewn i’r unfed ganrif ar hugain gyda chynhyrchiad newydd rhyngweithiol digidol.